C.Ff.I Felinfach – Buddugoliaeth ennill cystadleuaeth Drama C.Ff.I Ceredigion 2024

Wedi wythnos llawn o gystadlu yn Theatr Felinfach, y clwb lleol aeth â’r tlws ar ddiwedd y cystadlu

gan Alaw Jones
Llun o holl gast y Ddrama 'Pwy yw dy gymydog?'

Mae’n draddodiad ers blynyddoedd bellach i gynulleidfaoedd dyrru o bob cwr o Geredigion ac ymhellach i Theatr Felinfach yn ystod hanner tymor mis Chwefror ar gyfer wythnos adloniant C.Ff.I. Ceredigion.

Eleni, Drama oedd y gystadleuaeth a braf oedd gweld y traddodiad yn parhau’n gryf yn y Sir wrth i 14 clwb gystadlu yn ystod yr wythnos.

Perfformiodd C.Ff.I. Felinfach ar nos Wener 16eg o Chwefror i gloi’r wythnos o ddramâu yn perfformio ‘Pwy yw dy gymydog? gan Ifan Gruffydd.

Daeth cryn dipyn o lwyddiant i’r clwb wrth i Bleddyn Thomas ddod yn gyntaf fel actor gorau dan 28oed, Alaw Mair Jones yn drydydd fel actores orau dan 28, Iwan Thomas yn gyntaf fel y cynhyrchydd gorau, i’r set am ennill y wobr cyntaf a dyfarnu’r clwb yn fuddugol ar ddiwedd y cystadlu.

Bydd C.Ff.I Felinfach yn mynd ymlaen i gynrychioli C.Ff.I Ceredigion yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, dydd Sadwrn 9fed o Fawrth.

Hoffai aelodau’r clwb ddiolch i Iwan a Janice am yr holl waith arweiniad a chymorth yn ystod yr ymarferion, i’r arweinyddion a rhieni am fod mor gefnogol a’n cynorthwyo yn ystod yr ymarferion ac yn ystod y perfformio, i Neuadd Eglwys Ystrad a Neuadd Ciliau Aeron am y defnydd o’r cyfleusterau gogyfer â’r ymarferion.

I barhau gyda’r traddodiad, mae’r clwb am berfformio unwaith yn rhagor yn Theatr Felinfach, nos Fercher 21ain gyda perfformiadau gan C.Ff.I Llanddewi Brefi a C.Ff.I Llanllwni. Croeso i bawb a cysylltwch gyda’r Theatr os am fachu tocyn.