Eisteddfod Gylch – Ysgol Ciliau Parc

Llwyddiant!

Ffion Evans
gan Ffion Evans
MicrosoftTeams-image-13

Côr yr ysgol

MicrosoftTeams-image-12

Gwenllïan enillydd yr Unawd Bl5 a 6

Dydd Mercher diwethaf, cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd Cylch Aeron yn Theatr Felinfach. Llond y lle o blant yn gwneud eu gorau glas.

Bu Myfi Pugh yn canu Helfa’r Hydref yn yr Unawd i blant Blwyddyn 3 a 4.

Llongyfarchiadau mawr i Gwenllïan ar ennill yr Unawd Blwyddyn 5 a 6 a phob lwc iddi yn yr Eisteddfod Rhanbarth.

Braf nodi bod Côr yr ysgol wedi ennill hefyd ac yn mynd ymlaen i Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion ym Mhontrhydfendigaid dydd Sadwrn.

Dymuniadau gorau i Adran Dyffryn Aeron gyda’u cystadleuaeth nhw hefyd.