Cystadleuwyr ledled Ceredigion wedi codi’n fore heddi yn barod i gymryd rhan yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhafiliwn Bont.
Pob lwc i bawb o Ddyffryn Aeron!
Canlyniad Unawd Bl3 a 4:
1af Arthur Evans, Ysgol Henry Richard
2il Efa Medi James, Ysgol Bro Teifi
3ydd Nel Edwards-Phillips, Ysgol Felinfach
Ellis Davies o Ysgol Bro Sion Cwilt yn canu am y tedi blewog a Gwen y gath fach dlos yn yr Unawd Bl 1 a 2.
Rhein sy’n ennill y ciwt ffactor!
Llongyfarchiade mawr i Gwenllïan Dafydd, Ysgol Ciliau Parc – enillydd cynta’r dydd ar yr Unawd Bl.5 a 6. Yn ôl sŵn y ffans yn y Pafiliwn, ma nhw’n falch iawn!
Tro llefarwyr Bl.5 a 6 nawr a ma nhw’n rhedeg ras! Gwenno Jones, Ysgol Llanarth yn agor y gystadleuaeth.
‘Mlaen i’r gystadleuaeth nesaf – Unawd Bl.3 a 4 a Nel Edwards-Phillips yn cynrychioli Cylch Aeron.
Cystadleuaeth o safon uchel iawn!
Criw Ciliau wedi codi’n fore i gefnogi Gwenllïan. 👏👏 Da iawn ti Gwenllían!
Y cystadlu wedi dechre gyda’r Unawd Bl.5 a 6 ac yn cynrychioli Cylch Aeron oedd Gwenllïan Dafydd.