Eisteddfod Sir yr Urdd

Hynt a helynt cystadleuwyr Dyffryn Aeron

Carys Mai
gan Carys Mai

Cystadleuwyr ledled Ceredigion wedi codi’n fore heddi yn barod i gymryd rhan yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhafiliwn Bont.

Pob lwc i bawb o Ddyffryn Aeron!

13:37

Canlyniad Ensemble

1af Bro Teifi

2il Ysgol Felinfach

13:35

Canlyniad y Llefaru Bl.3 a 4

1af Arthur Evans, Ysgol Henry Richard

2il Sara Lewis, Ysgol Dyffryn Cledlyn

3ydd Nanw Griffiths Jones, Ysgol Aberaeron

12:22

Wel, llwyddiant eto i Cylch Aeron! Nel a Mari o Ysgol Felinfach yn ennill y Ddeuawd Bl6. ac iau. 

Bydd angen trefnu bws o Ddyffryn Aeron i gefnogi pawb yn Meifod!

12:13

Ensemble Ysgol Felinfach yn paratoi gefn llwyfan, dan arweiniad Mali Lewis. Pob lwc!

12:06

Canlyniad Llefaru Bl2 ac iau:

1af Ifan Morris, Ysgol Bro Teifi

2il Heti Evans, Ysgol Bont

3ydd, Ilan Gregson, Ysgol Carreg Hirfaen

11:54

Llwyddiant eto i Ddyffryn Aeron – i Beti Davies, Ysgol Aberaeron ar ennill yr Unawd Cerdd Dant, Bl 2 ac iau.

11:50

Llongyfarchiadau mawr i Nanw Griffiths-Jones ar ennill yr Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4 – gwych iawm!

11:36

Canlyniad Unawd Bl2 ac iau:

1af Heti Evans, Ysgol Bont

2il Alaw Hughes, Ysgol Llanilar

3ydd Lois Hywel, Ysgol Bro Teifi

11:27

Pawb wrth eu bodd yn gwrando ar Nel a Mari o Ysgol Felinfach yn canu am fod yn ffrindiau gorau yn yng nghystadleuaeth y ddeuawd. Arbennig ferched!

11:22

Canlyniad Llefaru Bl.5 a 6:

1af Wil Williams, Ysgol Dyffryn Cledlyn

2il Esyllt Thomas, Ysgol Bro Teifi

3ydd Annabelle Bulman, Ysgol Henry Richard