Cystadleuwyr ledled Ceredigion wedi codi’n fore heddi yn barod i gymryd rhan yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhafiliwn Bont.
Pob lwc i bawb o Ddyffryn Aeron!
Canlyniad Unawd Bl2 ac iau:
1af Heti Evans, Ysgol Bont
2il Alaw Hughes, Ysgol Llanilar
3ydd Lois Hywel, Ysgol Bro Teifi
Pawb wrth eu bodd yn gwrando ar Nel a Mari o Ysgol Felinfach yn canu am fod yn ffrindiau gorau yn yng nghystadleuaeth y ddeuawd. Arbennig ferched!
Canlyniad Llefaru Bl.5 a 6:
1af Wil Williams, Ysgol Dyffryn Cledlyn
2il Esyllt Thomas, Ysgol Bro Teifi
3ydd Annabelle Bulman, Ysgol Henry Richard
Canlyniad Unawd Alaw Werin Bl3 a 4:
1af Arthur Evans, Ysgol Henry Richard
2il Nanw Griffiths-Jones, Ysgol Aberaeron
3ydd Lara Thornton, Ysgol y Ddwylan
Ynyr Edwards-Phillips yn agor cystadleuaeth Llefaru Bl.2 ac iau.
Canlyniad Unawd Bl3 a 4:
1af Arthur Evans, Ysgol Henry Richard
2il Efa Medi James, Ysgol Bro Teifi
3ydd Nel Edwards-Phillips, Ysgol Felinfach
Ellis Davies o Ysgol Bro Sion Cwilt yn canu am y tedi blewog a Gwen y gath fach dlos yn yr Unawd Bl 1 a 2.
Rhein sy’n ennill y ciwt ffactor!
Llongyfarchiade mawr i Gwenllïan Dafydd, Ysgol Ciliau Parc – enillydd cynta’r dydd ar yr Unawd Bl.5 a 6. Yn ôl sŵn y ffans yn y Pafiliwn, ma nhw’n falch iawn!
Tro llefarwyr Bl.5 a 6 nawr a ma nhw’n rhedeg ras! Gwenno Jones, Ysgol Llanarth yn agor y gystadleuaeth.
‘Mlaen i’r gystadleuaeth nesaf – Unawd Bl.3 a 4 a Nel Edwards-Phillips yn cynrychioli Cylch Aeron.
Cystadleuaeth o safon uchel iawn!