Cystadleuwyr ledled Ceredigion wedi codi’n fore heddi yn barod i gymryd rhan yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhafiliwn Bont.
Pob lwc i bawb o Ddyffryn Aeron!
Canlyniad Cân Actol (Adrannau/Ysgolion hyd at 100 o blant)
1af Adran Dyffryn Aeron
Canlyniad Grŵp Llefaru
1af Ysgol Bro Teifi
2il Ysgol Mynach
3ydd Ysgol Dyffryn Cledlyn
Canlyniad Côr (Ysgolion hyd at 150 o blant)
1af Ysgol y Dderi
2il Ysgol Llanilar
3ydd Ysgol Ciliau Parc
Diweddglo i ddiwrnod da o gystadlu – côr Ysgol Gymraeg ac Ysgol y Ddwylan yn canu encore gyda’i gilydd.
Canlyniadau ola’r dydd ar y ffordd…
Perfformiad gwych gan Adran Dyffryn Aeron yn y Gân Actol. Yn ystod y perfformiad welon ni Mamgu a Dadcu yn mentro i Sbaen ar eu gwyliau ond ar ôl trio bwyd tapas, gweld matador a’r tarw, a bolaheulo ar y traeth, dyma nhw’n dod i’r casgliad bod unman yn debyg i adre.
Canlyniad Cân Actol (Ysgolion dros 100 o blant)
1af Ysgol Gymraeg
Canlyniad Côr Dysgwyr
1af Ysgol Padarn Sant
Canlyniad Parti Deulais
1af Ysgol Bro Teifi
2il Ysgol Penrhyncoch
Ysgol Felinfach a’r ystlum yn cystadlu yn y Grŵp Llefaru.
Canlyniad Cân Actol i Ddysgwyr
1af Ysgol Plascrug