Cystadleuwyr ledled Ceredigion wedi codi’n fore heddi yn barod i gymryd rhan yn Eisteddfod Sir yr Urdd ym Mhafiliwn Bont.
Pob lwc i bawb o Ddyffryn Aeron!
Diweddglo i ddiwrnod da o gystadlu – côr Ysgol Gymraeg ac Ysgol y Ddwylan yn canu encore gyda’i gilydd.
Canlyniadau ola’r dydd ar y ffordd…
Perfformiad gwych gan Adran Dyffryn Aeron yn y Gân Actol. Yn ystod y perfformiad welon ni Mamgu a Dadcu yn mentro i Sbaen ar eu gwyliau ond ar ôl trio bwyd tapas, gweld matador a’r tarw, a bolaheulo ar y traeth, dyma nhw’n dod i’r casgliad bod unman yn debyg i adre.
Canlyniad Cân Actol (Ysgolion dros 100 o blant)
1af Ysgol Gymraeg
Canlyniad Côr Dysgwyr
1af Ysgol Padarn Sant
Canlyniad Parti Deulais
1af Ysgol Bro Teifi
2il Ysgol Penrhyncoch
Ysgol Felinfach a’r ystlum yn cystadlu yn y Grŵp Llefaru.
Canlyniad Cân Actol i Ddysgwyr
1af Ysgol Plascrug
Perfformiad arbennig gan Ysgol Ciliau Parc dan arweiniad Ffion Evans yn un o gystadlaethau ola’r dydd.
Canlyniad Côr Adran
1af Adran Aberystwyth
2il Adran Llambed
3ydd Adran Dyffryn Aeron
Canlyniad Parti Unsain (Ysgolion dros 50 o blant)
1af Ysgol y Dderi
2il Ysgol Rhydypennau
3ydd Ysgol Aberporth