Chwech trosgais ac i’r ffeinal!

Aberaeon drwodd i ffeinal Cwpan Sir Benfro

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Penfro-CwpanArwel #9 Evans

Canlyniad

Cafodd y dyrfa dda o gefnogwyr wnaeth deithio i waelod Sir Benfro wledd o rygbi a pherfformiad arbennig gan Aberaeron yn y gêm gynderfynol o Gwpan Sir Benfro. Cafodd y gêm hon ei gohirio nifer o weithiau oherwydd cyflwr y cae i lawr ym Mhenfro.

Pedair cais cyn hanner amser

Roedd gan y tîm cartref bac cryf iawn, ond mi wnaeth blaenwyr Aberaeron yn dda i’w gwrthsefyll yn y sgarmesoedd gan ennill digon o bêl i gefnwyr dawnus yr ymwelwyr fanteisio a sgori pedair cais yn yr hanner cyntaf. Sgoriwyd dwy gais gan y cefnwr, Morgan Llewelyn, cais gan yr wythwr, Will James a chais arbennig gan y canolwr, Rhodri Jenkins, wnaeth dorri drwy’r amddiffyn o ddeg metr Penfro gan guro sawl amddiffynnwr i goresi’n agos i’r  pyst.

Ni fu’r tîm cartref yn agos at linell gais Aberaeron drwy gydol yr hanner cyntaf. Troswyd pob un o’r ceisiau gan Rhodri Jenkins gan osod Aberaeron yn gyfforddus ar y blaen.

Dwy gais i Steffan

Yn gynnar yn yr ail hanner, mi groesodd Steffan “DJ” Jones am gais wedi iddynt redeg cic gosb o fewn 22 Penfro. Enillwyd tipyn o dir wrth i’r blaenasgellwr, Bruce Gaskell redeg trwy’r amddiffyn. Ailgylchwyd y bêl yn gyflym a’i danfon drwy’r dwylo at Steffan ar yr asgell.

Gyda’r gêm fwy neu lai wedi ei hennill mi wnaed nifer o newidiadau ac mi ddaeth y tîm cartref yn ôl gyda chais trwy eu blaenwyr. Aeth Aberaeron yn ôl at eu hamddiffyn cadarn a ni fu mwy o bwyso gan dîm Penfro wedi hyn. Sgoriwyd cais arall cyn diwedd y gêm gan Steffan “DJ” Jones.

Troswyd pob un o’r ceisiau gan Rhodri Jenkins. Cafodd Bruce Gaskell ei enwi’n chwaraewr y gêm, er gellid fod wedi enwi sawl chwaraewr arall.

Dyma’r tro cyntaf i Aberaeron gyrraedd gêm derfynol Cwpan Sir Benfro.  Bydd y gêm yn erbyn Dinbych Y Pysgod. Nid yw’r dyddiad na’r lleoliad wedi eu trefnu eto, ond mi fydd yn cael ei chwarae rhywbryd ym mis Mai.

Edrychwn ymlaen at gêm nesaf Aberaeron a fydd ar Barc Drefach ar 30 Mawrth yn erbyn Talacharn.