Parti Mawr i Lawnsio Menter Fawr

PITSA A BAR A CHYWYDD A WHARE

Euros Lewis
gan Euros Lewis
1

Ben Lake yn joio, glei, yn y parti mawr yng Nghribyn

2

Nia a Nerys (Llewelyn, gynt) – yn cofio am eu magwrfa yn y Ty’r Ysgol

3

Elin, cyflwynwraig Cyw ac Alan yn joio ’da’r plant.

Screenshot-11

Y faner fydd i’w gweld tu fas i’r ysgol tan ddydd Sul, 5 Mai.


O’dd hi’n dipyn o noson yng Nghribyn nos Wener ddiwetha wrth i dyrfa fawr a brwdfrydig ddod ynghyd i lawnsio ymgyrch y pentre i brynu’r ysgol. Gyda fan pitsa yn yr iard whare gynt, Elin Cyw yn y stafell ddosbarth fach yn whare geme ‘da’r plant (â help Alan Henson), Ianto Frongelyn yn adrodd ei gywydd i Ysgol Cribyn am y tro cyntaf oll, a bar y Vale yn yr hyn a ddaw’n neuadd y gymuned ma’s-law (â bach o lwc) roedd awyrgylch parti a joio mas-draw yn drwch.  A pham lai? Roedd digon i’w ddathlu! Pymtheg mlynedd ers cau’r ysgol, o’r diwedd – O’r Diwedd! – ma’r cyfle wedi dod i’w phrynu. A wedi’i phrynu i’w troi’n ganolfan fyrlymus ddydd a nos, rownd y flwyddyn.

A, gan gofio mai Ysgol Cribyn yw hi, mae’n siwr o fod yn fyrlymus hefyd. Fel ma’r gymdogaeth fach hon wedi bod yn fyrlymus erioed, glei – nosweithi llawen, steddfode dwl, cywain enwau caeau, gwylio ffilmie, cawl a thwmpath, dramau a nosweithi atgofion, ffeire Nadolig a Ffair Sant Silin, adran yr Urdd a lawnsio nid un ond dau lyfr hanes – a hynny i gyd ers i’r ysgol gau!

A’n ogystal a bod yn ganolfan fydd yn helpu a hybu plant a phobol ifainc a newydd-ddyfodiaid i ddysgu am hanes yr ardal, ei thiroedd a’i chaeau a’i byd natur a’i thradodiadau a’i hiaith a’i straeon ac ati mi fydd rhan o’r ysgol yn dod yn gartre fforddiadwy ar gyfer teulu bach lleol. A dyna braf – nosweth y parti – oedd croesawu Nia a Nerys (Llewelyn, fel o’n nhw), y ddau blentyn ola i’w magu yn y Tŷ’r Ysgol gynt i’n plith. Rhyw 30 mlynedd nôl, ar ymadawiad eu tad, Mr Llewelyn, yn brifathro’r ysgol trowyd y tŷ yn stafell ddosbarth. A nawr – os daw popeth i fwcwl – mi fydd y stafell ddosbarth yn troi nôl i fod yn dŷ, yn gartre bach cysurus i deulu lleol fel ro’dd hi pan oedd Nia a Nerys yn blant.

Ond i bethe i ddod i fwcwl ma’ rhaid gweithio’n glou. Chwe mis ma’r cyngor wedi rhoi i bobol Cribyn i brynu’r ysgol. A chwe wythnos ma bobol Cribyn wedi rhoi i’w hunain i godi’r arian. I ganolbwyntio ar hynny a dim arall!

A dyna bwynt y parti. Lawnsio’r ymgyrch fawr i godi £175,000. Medd Alan Henson, cadeirydd y grwp llywio, ‘Mae’n naill ai hynny neu mi fydd y sir yn ei gwerthu i bwy bynnag sydd â’r boced ddyfna’. Gyda dyfodol y Long Room a’r Eglwys Fach yn y fantol, heb yr ysgol go anodd fydd hi i gynnal y bwrlwm hyd-yn-oed mewn lle mor fyrlymus â Chribyn.’

‘Dyw hynny ddim yn opsiwn,’ medd Alan. ‘Ma’ hanes Tafarn y Vale wedi dangos i ni be sy’n bosib. Fe wna’th bobol Cribyn gefnogi’r ymgyrch honno a dwi’n siwr – gyda’n gilydd – y bydd yna gefnogaeth eang – yng Nghribyn ac ar draws Dyffryn Aeron yn gyfangwbl – i’r uchelgais o godi canolfan newydd hyderus i’r Gymraeg er budd y gymdeithas gyfan’.

I GEFNOGI’R FENTER EWCH I www.ysgolCribyn/cy neu ebostwch Elliw ar ysgolcribyn@gmail.com