Gobaith am ddyrchafiad yn pylu

Aberaeron 22 – 26 Talacharn

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Rhys-Bwtch-yn-sgoroRhys Hafod

Rhys “Bwtch” Jones yn croesi am gais

Heb chwarae gêm yn y gynghrair ers naw wythnos, bu’n brynhawn anodd i’r tîm cartref yn erbyn Talacharn ar Barc Drefach y Sadwrn diwethaf. Er iddynt frwydro’n ôl o fewn sgôr, ofer bu eu hymdrech i ennill y gêm.

Roedd Talacharn wedi chwarae’n gyson dros  y cyfnod hwn gan iddynt gael rhediad o gemau yng nghystadleuaeth Cwpan yr Undeb a chyrraedd rownd y chwarteri. Roedd hyn yn amlwg ar y cae wrth iddynt ddangos hyder yn eu trafod a’u hamddiffyn, gyda’r maswr dawnus Nico Setaro yn lliwio’r chwarae yn grefftus.

Wedi deng munud o chwarae, Aberaeron aeth ar y blaen trwy gais gan y blaenasgellwr, Bruce Gaskell, o ganlyniad i chwarae da gan yr olwyr. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

Ni fu’n hir cyn i Dalacharn daro’n ôl gyda throsgais. Ciciodd eu maswr y bêl dros yr amddiffyn i gyfeiriad eu hasgellwr a wnaeth gasglu’r bêl i groesi’n ddiwrthwynebiad.

Gormod o giciau cosb

Bu Aberaeron ar y droed ôl wedi hyn gan droseddi’n gyson yn hanner eu hunain. Sgoriwyd cais arall gan Dalacharn a chiciodd Setaro dair cic gosb yn ogystal ag ail drosiad. Yr unig ymateb gan y tîm cartref oedd cic gosb gan Rhodri Jenkins i osod y sgôr yn 10-23 ar hanner amser.

Gôl adlam

Yn syth wedi’r egwyl, gyda’r ymwelwyr yn dechrau’n gryf ac yn pwyso tu fewn i hanner Aberaeron, mi giciodd Setaro gôl adlam i roddi mynydd i’w ddringo i’r tîm cartref.

Dyna sgôr olaf Talacharn. Gwnaeth Aberaeron frwydro’n ôl yn ddewr yn y chwarter olaf gan dorri lawr ar y ciciau cosb niferus oedd yn nodweddiadol o’u chwarae yn yr hanner cyntaf.

Gwobrwywyd y blaenwyr gyda chais cosb wedi i’r gwrthwynebwyr dynnu’r sgarmes i lawr wrth ymyl y llinell gais. Y syndod oedd, bod neb o dîm Talacharn wedi derbyn carden felen am y drosedd!

Cais haeddiannol

Gyda chwarter awr o chwarae i fynd, roedd Aberaeron yn codi eu gêm ac yn gofyn cwestiynau o amddiffyn a gwrthwynebwyr. Canlyniad i hyn oedd i Rhys “Bwtch” Jones groesi am gais gyda phedwar dyn y tu allan iddo wedi gwaith da gan y tîm cyfan i osod pwysau ar amddiffyn Talacharn.

Er pwyso a chwarae y rhan fwyaf o weddill y gêm yn hanner Talacharn, methiant fu’r ymdrech gan y tîm cartref i ychwanegu at y sgôr. Cafwyd cyfleoedd, ond nid oedd digon o gywirdeb yn chwarae Aberaeron i fanteisio ar y diriogaeth a enillwyd.

Bydd eu gêm nesaf gartref yn erbyn Tyddewi.

Dweud eich dweud