Ysgol Dyffryn Aeron

Diweddariad Ysgol Dyffryn Aeron

gan Nia Lloyd Thomas
Seremoni Arwyddo Sip
Torri’r Dywarchen
Gwaith Prosiect Cynefin mewn cyd-weithrediad gyda Theatr Felin-fach
Gwaith Prosiect Cynefin mewn cyd-weithrediad gyda Theatr Felin-fach
Helfa’r Pasg

Gyda llai na blwyddyn cyn bod Ysgol Dyffryn Aeron yn agor ei drysau mae yna gyffro yn y dyffryn.

Bellach, fe dorrwyd y dywarchen gyntaf, a chafwyd cyfle i gynrychiolaeth o ddisgyblion Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Dihewyd ac Ysgol Felinfach, aelodau o Gyngor Sir Ceredigion ynghyd â gweithwyr/staff Wynnes Construction i fod yn rhan o’r seremoni. Yn yr un modd, cynhaliwyd seremoni arwyddo’r SIP, lle bu cynrychiolaeth o’r uchod yn arwyddo eu henwau ar ddeunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu Ysgol Dyffryn Aeron.

Mae disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 y dair ysgol yn rhan o brosiect Cynefin, mewn cydweithrediad â Theatr Felinfach. Bwriad y prosiect yw paratoi’r disgyblion tuag at newid ysgol, gan hybu a datblygu eu hyder a’u gwydnwch, wrth roi cyfle iddynt gydweithio a chymdeithasu. Mae hyn i gyd yn rhan o’r broses pontio ac yn datblygu sgiliau o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Fel rhan o’r prosiect bydd y disgyblion yn creu logo ar gyfer yr ysgol, a diolch, yn ogystal, i ddisgyblion ieuengaf yr ysgolion (Dysgu Sylfaen) am eu syniadau gwych!

Roedd disgyblion Dysgu Sylfaen Ysgolion Ciliau Parc, Dihewyd a Felinfach wedi cael modd i fyw yn cymryd rhan mewn helfa wyau Pasg ar ddiwedd y tymor yng Ngerddi TyGlyn. Llongyfarchiadau i’r plant am gael gafael ar bob wy!!

Edrychwn ymlaen at Dymor yr Haf, er mwyn parhau gyda’r gwaith paratoi ar gyfer agoriad Ysgol Dyffryn Aeron.

Dweud eich dweud