Gŵyl pêl-droed ieuenctid Felinfach: diwrnod 1

Holl gyffro’r ŵyl o gae chwarae Clwb Pêl-droed Felinfach

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi yn yr ŵyl, cofiwch ychwanegu diweddariadau, lluniau neu fideos i’r blog byw yn ystod y dydd!

17:21

Yn ola ond nid y lleia, da iawn bois Llanbed am ennill dan 13!

16:38

Merched Felinfach wedi neud yn sbeshal i ennill y ffeinal yn amser ychwanegol. Wedi dal ati hyd y diwedd a gôl hyfryd gan Anna!

16:15

Dim ond jyst dala hon!

Felinfach 1 – 0 Penrhyncoch yn ffeinal y merched

16:00

Golden gôl i Llanbed o fewn 10 eiliad! Nhw sy trwyddo i’r ffeinal, yn erbyn Penrhyn-coch

15:57

Llanbed 1 – 1 Felinfach yn rownd gynderfynol dan 13. Amser ychwanegol nesa!

14:43

Arwyr Felinfach a Sêr Felinfach – y ddau dîm lleol dan 10 yn derbyn medalau.

Diolch Evans Bros am noddi’r adran heddi.

14:27

Llew yn rhannu ei farn am y dydd, a’r timau dan 13 mae wedi bod yn eu dyfarnu

14:00

Y timau cartre heddi

13:31

Noddwyr dan 6 yn cyflwyno medalau i’r tîm cartre

13:18

Timau dan 6 yn aros yn eiddgar am eu medalau. Gwych gweld cymaint o blant bach yn joio ma heddi.