Gŵyl pêl-droed ieuenctid Felinfach: diwrnod 1

Holl gyffro’r ŵyl o gae chwarae Clwb Pêl-droed Felinfach

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi yn yr ŵyl, cofiwch ychwanegu diweddariadau, lluniau neu fideos i’r blog byw yn ystod y dydd!

09:52

🎟🎟🎟🎟🎟🎟
Fe fyddwn yn gwerthu raffl wrth y gât yn ystod y ddau ddiwrnod ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu’r gwobrau.

Byddwn yn tynnu’r raffl tua amser cinio pob dydd. Cyhoeddir y rhifau lwcus ar y system uchelseinydd ac ar y bwrdd gwyn ger allanfa’r cae.

Pob lwc!

09:49

Ar wahân i’r chwaraewyr, dyma’r bobol pwysica yn yr ŵyl – y criw o wirfoddolwyr.

Nhw fydd yn reffo, cwcan bacwn a syrfo te, sylwebu, sortio’r parco a gwerthu raffl, cofrestru a chadw trefn, a’r HOLL waith paratoi o flaen llaw.

Diolch o galon i bawb.