Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Os ydych chi yn yr ŵyl, cofiwch ychwanegu diweddariadau, lluniau neu fideos i’r blog byw yn ystod y dydd!
🎟🎟🎟🎟🎟🎟
Fe fyddwn yn gwerthu raffl wrth y gât yn ystod y ddau ddiwrnod ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu’r gwobrau.
Byddwn yn tynnu’r raffl tua amser cinio pob dydd. Cyhoeddir y rhifau lwcus ar y system uchelseinydd ac ar y bwrdd gwyn ger allanfa’r cae.
Pob lwc!
Ar wahân i’r chwaraewyr, dyma’r bobol pwysica yn yr ŵyl – y criw o wirfoddolwyr.
Nhw fydd yn reffo, cwcan bacwn a syrfo te, sylwebu, sortio’r parco a gwerthu raffl, cofrestru a chadw trefn, a’r HOLL waith paratoi o flaen llaw.
Diolch o galon i bawb.