Gŵyl pêl-droed ieuenctid Felinfach: diwrnod 1

Holl gyffro’r ŵyl o gae chwarae Clwb Pêl-droed Felinfach

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi yn yr ŵyl, cofiwch ychwanegu diweddariadau, lluniau neu fideos i’r blog byw yn ystod y dydd!

12:13

Dros traean o’r ffordd trwy gemau dan 14 y merched:

Felinfach 0–2 Johnstown Jags B

Felinfach Huddle 1–0 Penrhyn Roosters

Johnstown Jags A 6–0 Penrhyncoch Girls

Felinfach Huddle 0–0 Johnstown Jags B

Johnstown Jags A 2–0 Felinfach

Penrhyncoch Girls 1–0 Penrhyn Roosters

12:11

Hyd yn hyn yn yr adran dan 14:

Aberaeron AFC 0–3 Llandudoch

Felinfach FC 0–0 Penrhyncoch Dynamos

Llanbed 0–1 Llandysul FC

Felinfach FC 0–2 St Llandudoch

Llanbed 2–1 Aberaeron AFC

12:04

Ma mwy nag un ffordd o helpu mas mewn gŵyl bêl-droed!

11:32

Trefn y gemau ar y gwahanol gaeau heddi.

Os chi ma, pa dimau sydd wedi edrych yn dda hyd yn hyn?

10:40

20240420_092840
20240420_093117

Hoffai’r clwb ddiolch i Dawns Welsh Gifts am ddarparu ein medalau a gwobrau eleni – gwasanaeth arbennig.

Ond y cwestiwn mawr yw, pwy fydd yn mynd â’r rhain adre ar ddiwedd y dydd?

10:03

Y tîmau sy’n chwarae heddi ydy’r dan 6, dan 10, dan 13, dan 14 a merched dan 14.

Pob lwc i bob un o’r 51 o dimau!

09:52

🎟🎟🎟🎟🎟🎟
Fe fyddwn yn gwerthu raffl wrth y gât yn ystod y ddau ddiwrnod ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu’r gwobrau.

Byddwn yn tynnu’r raffl tua amser cinio pob dydd. Cyhoeddir y rhifau lwcus ar y system uchelseinydd ac ar y bwrdd gwyn ger allanfa’r cae.

Pob lwc!

09:49

Ar wahân i’r chwaraewyr, dyma’r bobol pwysica yn yr ŵyl – y criw o wirfoddolwyr.

Nhw fydd yn reffo, cwcan bacwn a syrfo te, sylwebu, sortio’r parco a gwerthu raffl, cofrestru a chadw trefn, a’r HOLL waith paratoi o flaen llaw.

Diolch o galon i bawb.