Hwlffordd yn haeddu ennill

Hwlffordd 47 – Aberaeron 27

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Dafydd-1Rhys Hafod

Chwaraewr y gêm i Aberaeron – Dafydd Llewelyn

Er bod y tywydd wedi gwella ag yn ffafrio chwarae rhydd olwyr Aberaeron, mi wnaeth y Gwylanod waith caled o’i gêm gynghrair olaf y tymor.  Dyma oedd y frwydr ar frig Cynghrair 3 Adran y Gorllewin Undeb Rygbi Cymru. Roedd yna lygedyn o obaith byddai Aberaeron yn medru gorffen ar frig y tabl pe caed buddugoliaeth i lawr yn Hwlffordd a phe bai canlyniadau eraill o gemau sy’n weddill yn eu ffafrio.

Yn anffodus, o flaen torf dda o gefnogwyr y Gwylanod, methiant llwyr fu’r ymdrech. Mi garlamodd y tîm cartref ar y blaen gyda dwy gais o fewn 10 munud. Sgoriwyd y gyntaf o fewn dwy funud a’r ail wedi i Aberaeron fethu casglu’r bêl wrth i Hwlffordd ail ddechrau chwarae wedi i Rhodri Jenkins fod yn llwyddiannus gyda chic gosb. Nid oedd chwarae Aberaeron i fyny i’r safon yr ydym yn arfer ei weld, gydag amddiffyn gwan a chamgymeriadau yn rhoi’ mantais i’r tîm cartref ar blât.

Taro’n ôl

Mi wnaeth Aberaeron ennill cyfres o giciau cosb ac o’r diwedd wedi ennill lein a mynd trwy tua hanner dwsin o sgarmesoedd symudwyd y bêl drwy’r dwylo ag allan at Dyfrig Dafis ar yr asgell i groesi am gais teilwng. Ni fu’r trosiad yn broblem i Rhodri Jenkins.

Aeth Aberaeron ar y blaen wedi chwarae a thrafod da gan bob chwaraewr. Mi symudwyd y chwarae o un ochr o’r cae i’r llall cyn i’r canolwr, Dafydd Llewelyn dderbyn y bêl ar linell deng metr Hwlffordd a churo’r amddiffyn i sgorio cais arbennig. Gwnaeth Rhodri Jenkins lwyddo gyda’r trosiad i roi’r sgôr yn 10 – 17 wedi 20 munud o chwarae.

Amddiffyn gwan

Ni fu Hwlffordd yn hir cyn sgorio eu trydydd cais, a’i throsi y tro yma i roi’r sgôr yn gyfartal. Roedd Aberaeron ym methu dygymod â chwarae disglair olwyr y tîm cartref. Amddiffyn Aberaeron oedd un o’u cryfderau yn ystod y tymor, ond oedd yna wendid sylweddol yn eu taclo yn yr ornest yma.

Bu’r chwarae yn weddol gyfartal am ychydig wedi hyn a methiant fu ymdrech Aberaeron i dorri trwy amddiffyn Hwlffordd. Yn y diwedd, dyfarnwyd cic cosb i Aberaeron o ychydig y tu fewn i hanner Hwlffordd. Gwnaeth Rhodri Jenkins yn dda o’i gyfle i roddi Aberaeron dri phwynt ar y blaen.

Sgoriodd Hwlffordd gais arall cyn hanner amser gan adael y sgôr yn 22-20.

Dal yn y gêm

Er y gwendidau amlwg yn amddiffyn Aberaeron yn yr hanner cyntaf, roedd y gêm yna i’w hennill os medrent gadw disgyblaeth a thynhau’r amddiffyn.

Yn anffodus, bu’r chwarae yn yr ail hanner yn drychinebus i’r ymwelwyr. Er i Aberaeron sgorio cais drwy Bobby Jones a’i throsi gan Rhodri Jenkins, mi wnaeth Hwlffordd ymestyn eu mantais gan sgorio dwy drosgais, cais a dwy gic gosb i orffen y gêm 20 pwynt ar y blaen.

Anafiadau costus

Ar ddechrau’r ail hanner mi gollodd Aberaeron un o’u hail reng, Richard Francis ag yn fuan wedyn eu cefnwr a’u capten Morgan Llewelyn. Y ddau yn gorfod gadael y cae gydag anafiadau am glwyfau i’w hwynebau oedd angen triniaeth mewn ysbyty. Does dim amheuaeth bod ail-drefnu’r tîm oherwydd hyn  wedi cael effaith ar eu chwarae.

Rhaid canmol Hwlffordd am y fuddugoliaeth hon. Roeddent wedi gwneud eu gwaith cartref ar y ffordd mae Aberaeron yn chwarae ag yn eiddgar am dalu’r pwyth yn ôl wedi iddynt golli ar Barc Drefach ynghynt yn y tymor. Dyma’r unig dro’r tymor yma lle medrwn ddweud bod Aberaeron wedi eu trechu gan well tîm.

Tymor llwyddiannus

Ar y cyfan, bu’r tymor yn un llwyddiannus i’r Gwylanod ac mae gorffen yn drydydd yn y gynghrair yn glod i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r tîm, gan gynnwys y ddau hyfforddwr sydd hefyd yn chwarae – Ryan Williams a Dyfrig Dafis.

Un gêm ar ôl

Mae yna un gêm ar ôl i Aberaeron i’w chwarae’r tymor yma. Mae’n gêm derfynol Cwpan Sir Benfro i lawr yng Nghrymych ar Mai 11 yn erbyn Dinbych y Pysgod, sydd yn ail yn yr ail adran ag ar fin esgyn i’r adran gyntaf y tymor nesaf. Dyma’r tro cyntaf i Aberaeron gyrraedd y rownd derfynol. Mae yna edrych ymlaen at yr achlysur ac mae yna fws i gefnogwyr wedi ei drefnu. Dewch bawb i gefnogi eich clwb rygbi lleol!

Mae’r tîm datblygu hefyd yn chwarae ar Barc Drefach nôs Wener yma (Ebrill 26) yn erbyn Aberteifi. Hon bydd eu gêm olaf y tymor yma.

Dweud eich dweud