Ffeinal arall ar ei ffordd i’r Felin

Gôl y tymor Rhys Jon James

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Cwpan Coffa Dai Dynamo Davies

Bont 1 Felinfach 3

Gwlyb oedd Llambed neithiwr wrth i Felinfach herio tîm Bont, o Gynghrair Aberystwyth, yn rownd gyn-derfynol Cwpan Coffa Dai Dynamo Davies. Pistillo oedd hi’n gyson drwy gydol y gêm ar gae Heol y Gogledd o dan y llifoleuadau. Hanner cyntaf digon cyfartal rhwng y ddau dîm, ac anodd oedd hi i chwarae pêl-droed slic ar borfa oedd yn go slic ei hunan. Dim llawer o gyfleon amlwg i un o’r ddau wrth i’r hanner ddirwyn i ben, a rhoi cyfle i mi fwrw am ychydig o funudau sych yn y clwb rygbi cyfagos. Cafodd Jamie Davies, yn y gôl yn lle Tomos James ar y noson, ddim llawer i’w wneud rhwng y pyst, ac ychydig o gynigion gafodd Bont, sydd ar frig ei cynghrair ac heb golli gêm yng Nghyngrair Aberystwyth y tymor hyn.

‘Roeddwn yn darogan fyddai un gôl yn setlo’r gêm yma, a thua deng munud mewn i’r ail hanner, dyma Owain Dafydd o waith cymorth Ben McEvoy, yn cael ei droed i’r bêl ac i mewn â hi i’r rhwyd i roi ‘bois y llaeth’ ar y blaen.

A fyddai un gôl yn ddigon i Felin i sicrhau ei lle yn y gêm derfynol? Yn sicr doedd Rhys Jon James ddim yn credu hynny, ac o gic gornel arbennig Ben McEvoy, unwaith eto, dyma hyfforddwr academi clwb Aberystwyth yn taranu’r bêl heb i golwr Bont, na llawer i un arall, ei gweld yn saethu mewn i’r gôl.

‘Doedd lwc Bont ddim yn y gêm hon yn yr ail hanner, ac fe ddanfonwyd ei gôl-geidwad, Trevor Jenkins, o’r cae am drosedd ar un o chwaraewyr Felinfach. ‘Dwi ddim yn siwr pwy oedd hwnnw, ond gobeithio fod yr anaf ddim yn rhy wael.

Dyna hi drosodd fel gêm, ond fe gafwyd dwy gôl hwyr i gloi pen y mwdwl, efo Cameron Miles yn gwneud hi’n dair ryw funud cyn diwedd yr amser swyddogol, a Garin Evans yn drech na amddiffyn Felinfach drwy roi rywfaint o hunan barch i’r canlyniad ar ran Bont.

Ymlaen amdani tuag at Barc Emlyn, Castellnewydd Emlyn, pnawn Llun nesaf felly, am ail ymddangosiad Felinfach mewn gêm derfynol ar ddiwrnod Gŵyl y Banc y tymor hyn. Crymych fydd yn ei disgwyl ar ôl i hwythau guro Corris Unedig yn y gêm gyfatebol o 3-0.

Noson wlyb yn Llambed yn dod i ben felly, ond rwy’n siwr i’r dathliadau gwlyb barhau yn Nyffryn Aeron am oriau wedi’r chwiban olaf.

Does dim dwywaith fy mod yn y man iawn, ar yr amser iawn, i gymryd fideo o groesiad arbennig Ben McEvoy, a chlincar o gôl Rhys Jon –  sy’n f’atgoffa i o gôl Charlie George o groesiad ochr chwith Archie Gemmill i Derby County yn erbyn Real Madrid yn 1975. Dim ond fod un Rhys Jon ychydig yn well – o bosib!

Dweud eich dweud