Cribyn yn dathlu

Ymgyrch lwyddiannus o ran arian, aelodau a newid a chryfhau cymdeithas

Euros Lewis
gan Euros Lewis
Y-Cyhoeddiad-x

Y ffigurau pwysig ar Facebook wedi i’r ymgyrch gau nos Sul

Y-neges-newydd

Y neges newydd ar sgrin fawr y parti Cam Ola wrth i lwyddiant yr ymgyrch ddod yn amlwg

Alan-yn-diolch-x-1

Alan Henson yn diolch i’r llond ysgol ddaeth ynghyd i barti’r Cam Ola

Plant-yr-Urdd-x

Parti canu Adran yr Urdd, Cribyn yn paratoi i gyflwyno eitem yn y parti mawr

Cleif-a-Mefyn-xx

Cleif Harpwood a Mefyn o’r grwp Gelert ddaeth i’r adwy wedi salwch Dafydd Iwan

Siani-Sionc-2-x

Y plant yn joio ’da Siani Sionc a Siani Sionc yn joio ’da’r plant!

Llawenydd mawr! Dyna’r teimladau yng Nghribyn fore dydd Llun gŵyl Fai wrth i’r gymdogaeth ddihuno i’r newyddion fod Ymgyrch yr Ysgol wedi codi dros £70,000.

‘Mae’n newyddion ffantastig’ meddai Alan Henson, cadeirydd yr ymgyrch. ‘Dwi ddim yn siŵr be’ sy’ fwya cyffrous: y ffaith bo’ ni wedi codi gymaint o arian mhen cyn lleied o amser neu fod ‘da ni gymaint o aelodau – dros 250! O bentre o ryw 300 yn unig o boblogaeth, ma’r naill ffigwr a’r llall yn ffantastig’ medd Alan. ‘Sdim gair arall amdani.’

Cytuno’n llwyr ag Alan y mae Elliw Dafydd, Swyddog Datblygu’r prosiect i brynu’r ysgol a’i addasu’n gartre fforddiadwy i deulu lleol ac yn ganolfan gymdeithasol ac addysg leol. ‘Wrth i’r sieciau a’r ffurflenni cyfranddaliadau gyrraedd, ma’ hi wedi bod yn drawiadol pa mor lleol yw’r buddsoddwyr – a pha mor gynhwysfawr hefyd gyda newydd-ddyfodiaid i Gribyn lawn mor gefnogol â phawb arall’ meddai.

Wrth roi’r cynnig cyntaf i’r gymdogaeth brynu’r ysgol cyn ei chyflwyno i’r farchnad agored rhoddodd Cyngor Sir Ceredigion chwe mis iddynt godi’r £175,000 angenrheidiol. ‘Chwe wythnos nôl’ medd Alan ‘Degpunt o’dd ’da ni yn y banc. Nawr fod ’da ni dros £70,000, a chrynswth hwnna wedi’i godi yn y gymdogaeth ei hunan, y’n ni’n ffyddiog iawn o’n gallu i ennyn cefnogaeth y cronfeydd arian a chodi digon nid yn unig i brynu’r ysgol ond i addasu’r ysgol yn gartre cysurus i deulu bach lleol ac yn ganolfan a fydd yn cyfoethogi bywyd cymdeithasol ac addysgol Cribyn a Dyffryn Aeron hefyd.’

Ond er pwysigrwydd llwyddiant ariannol ymgyrch Ysgol Cribyn mae Elliw o’r farn mai’r newid sydd wedi digwydd o fewn y gymdogaeth yw’r elfen bwysicaf i sylwi arni. ‘Wrth gyrraedd yr ardal a dechrau ar fy ngwaith ro’n i’n ymwybodol mai criw bychan o Gymry cynhenid o’dd yn gyrru’r prosiect. Ond wrth i’r fenter brifio ma’ hi wedi bod yn gyrffous iawn gweld y brwdfrydedd yn cydio ac yn lledu ac – yn unol â bwriad y criw bach – yn torri ar draws y ffiniau traddodiadol. A thrwy’r cyfan i gyd – wrth i fwy a mwy o bobol gael eu cynnwys a moyn gael eu cynnwys – y Gymraeg sydd wedi bod yn arwain’ meddai.

Ategu hynny wnaeth Alan. ‘Dros y chwe wythnos ddiwetha y’n ni wedi’n syfrdanu dro ar ôl tro gan y wynebe newydd sydd wedi dod i ganol y bwrlwm cymdeithasol. Y’n ni wedi gweithio’n galed i neud i hynny ddigwydd, wrth gwrs. Wedi cnoco ar ddryse di-ri gan dorri’r garw â phobol o’dd yn bobol ddierth cyn ’ny. Ond ma’r ymdrech fach honno wedi talu ar ei chanfed’ meddai. ‘Ma gwylio cymaint o bobol yn croesi trothwy’r ysgol a dod i nabod ei gilydd am y tro cynta wedi bod yn un o bleserau penna’r chwech wythnos ddiwetha hyn.’

Er fod chwech wythnos yr ymgyrch bellach ar ben mae Elliw’n awyddus i bwysleisio fod y cynnig i brynu cyfranddaliadau a dod yn gyd-berchen ar Ysgol Cribyn dal ar agor. I wybod siwt mae gwneud hynny ewch at y wefan www.ysgolcribyn.cymru/cy/ neu wrth ebosto ysgolcribyn@gmail.com

Dweud eich dweud