Diweddglo digon boddhaol i’r tymor

Aberaeron 27 – 37 Dinbych y Pysgod

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Y-garfan-CrymychRhys Hafod

Y Garfan gyda rhai cefnogwyr

CERIRhys Hafod

Cerii Davies yn bwrw ’mlaen

HefinRhys Hafod

Chwaraewr y gêm dros Aberaeron – Hefin Williams

Tacl-IfanRhys Hafod

Tacl dda gan Ifan Daveis

Cafodd y gêm hon ei chwarae ar Barc Lloyd Thomas yng Nghlwb Rygbi Crymych ddydd Sadwrn diwethaf.  Dyma’r tro cyntaf i Glwb Rygbi Aberaeron gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro. Er iddynt golli, mi roedd ysbryd y tîm a’u cefnogwyr yn uchel wedi iddynt ddod yn agos yn erbyn tîm a fydd yn chwarae dwy gynghrair yn uwch y tymor nesaf, wedi iddynt ennill dyrchafiad i adran 1 o gynghreiriau Gorllewin Undeb Rygbi Cymru.

Dechrau Anodd

Bu’n hanner cyntaf caled i dîm Aberaeron gan iddynt fynd ar ei hôl hi o 20 pwynt i 3. Roedd y gwahaniaeth yn safon chwarae’r ddau dîm yn amlwg wrth i Ddinbych y Pysgod sgorio dwy drosgais a dwy gic gosb. Yr unig ymateb oddi wrth Aberaeron oedd cic gosb gan Rhodri Jenkins. Roedd pac trwm y gwrthwynebwyr yn goresgyn unrhyw ymdrech gan Aberaeron. Yr unig lygedyn o obaith i Aberaeron oedd cario cryf y prop, Ceri Davies.

Llygedyn o obaith

Er i Aberaeron gau’r bwlch ychydig gyda chic gosb, aeth Dinbych y Pysgod ymhellach ar y blaen gyda throsgais arall i osod y sgôr yn 27 -6. Brwydrodd Aberaeron yn ôl wedi tua chwarter awr o chwarae. Gyda’r Gwylanod yn hyrddio ymlaen o linell 5 metr wedi cic gosb dda dros yr ystlys gan Rhodri Jenkins, mi dynnwyd y sgarmes i lawr a dyna’r dyfarnwr yn gwobrwyo Aberaeron gyda chais gosb a charden felen i’r troseddwr.

Ymhellach ar y blaen

Siomwyd y dorf niferus o gefnogwyr Aberaeron pan aeth y Dewiniaid ymhellach ar y blaen gyda throsgais arall a chic gosb. Roed Aberaeron ar ei hôl hi erbyn hyn o 37 pwynt i 13.

Newidiadau

Gyda’r gêm yn ymestyn i’w chwarter olaf, rhaid oedd gwneud newidiadau. Ymddangosodd Owain Wozencroft a Rhys “Bwtch” Jones i’r rheng flaen, a Bobby Jones i’r rheng ôl. Enillwyd cic gosb o flaen y pyst wedi i Bobby Jones ennill tir drwy hyrddio drwy’r amddiffyn cyn cael ei dynnu i lawr ychydig yn fyr o’r llinell gais yn anghyfreithlon. Yn lle mynd am y llinell, penderfynwyd rhedeg y bêl. Cymerodd Rhys “Bwtch” Jones y bêl a’i phasio i Alex Danton. O’r sgarmes daeth y bêl yn ôl at Rhys iddo dorri trwy’r amddiffyn i sgorio. Troswyd y cais gan Rhodri Jenkins.

Diweddglo cyffrous

Aberaeron oedd â’r oruchafiaeth erbyn hyn a gyda’i hyder yn codi, ni fu rhaid aros yn hir am gais arall. Roedd Aberaeron yn chwarae rygbi da yn y munudau diwethaf. Torrodd Rhodri Jenkins yn rhydd o’i hanner ei hunan cyn cael ei dynnu i lawr tu fewn i 22 Dinbych y Pysgod. Aed trwy nifer o sgarmesoedd cyn i seren y gêm dros Aberaeron, Hefin Williams groesi am gais haeddiannol. Troswyd hon eto gan Rhodri  Jenkins.

Edrych ymlaen am sialens newydd

Dyna ddiwedd y gêm a’r tymor. Wedi dod yn ail yng nghwpan Sir Benfro ac yn ail yn y gynghrair, tipyn o siom a boddhad oedd y teimladau yn y diwedd.

Bu’r frwydr yng Nghrymych yn esiampl dda o rygbi agored yn cael ei chwarae gan ddau dîm da. Byddai ennill yr ornest hon wedi bod yn fendigedig, ac er y siom, roedd y modd wnaeth y chwaraewyr frwydro’n ôl yn erbyn tîm o’r adran gyntaf yn dangos addewid pan fydd y tymor newydd yn dechrau ym Mis Medi. Gyda newidiadau i’r gynghrair, bydd Aberaeron yn chwarae timoedd o Gwm Aman, Cwm Tywi a Chwm Gwendraeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Edrychwn ymlaen at dymor arall llwyddiannus.