Adroddiad arbennig gan Haydn Lewis fel arfer, ac yn crynhoi hynt ac helynt Clwb Rygbi Aberaeron yn berffaith ar ddiwedd tymor cofiadwy yn hanes y clwb. Does dim gwarth wrth orffen yn ail tu ôl i dîm cryf Talacharn yn Adran 3A y Gorllewin y tymor yma. Dim gwarth chwaith wrth golli i dîm cryfach Dinbych-y-Pysgod yn rownd derfynol Cwpan Sir Benfro Sadwrn diwethaf. Hollol wrthwyneb i ddweud y gwir, gan i’r Gwylanod ymladd tan yr eiliadau olaf un, gan gloi’r tymor efo cais hyfryd Hefin Williams, wedi chwarae medrus i arwain i fyny hyd at symudiad olaf y gêm ar bnawn o heulwen braf ar Barc Lloyd Thomas yng Nghrymych.
Yn ogystal ag adroddiadau cynhwysfawr Haydn, rhaid peidio anghofio lluniau y ffotograffydd celfydd, Rhys Hafod. Mae sawl chwaraewr sy’n gwisgo’r crysau glas a melyn wedi serenu y tymor yma, ond mae perfformiad Rhys oddi ar y cae efo’r camera yn haeddu cwpan a phencampwriaeth yn ei hunan.