Dewis Brenin a Brenhines Carnifal Ciliau Aeron

Neuadd y pentre dan ei sang

gan Alwen Thomas
1000010599

Y Beirniaid, y Brenin a’r Frenhines

1000010596

Blwyddyn 1

1000010597

Dosbarth Derbyn (Hŷn)

1000010598

Dosbarth Derbyn (Iau)

1000010600

Dosbarth Derbyn (Iau)

Cynhaliwyd disgo i ddewis Brenin a Brenhines Carnifal Ciliau Aeron heno, yn neuadd y pentref. Braf oedd gweld y neuadd yn llawn.

Y beirniaid eleni oedd Jenny a David, o Twin Pines, Ciliau Aeron a symudodd i’r pentref llynedd. Jenny a David fydd beirniaid y Carnifal hefyd.

Y Brenin eleni fydd Siôn Alun Davies, a’r Frenhines fydd Lili-wen Storer. Byddant yn cael eu coroni yn y Carnifal, ar ddydd Sadwrn 29ain o Fehefin 2024.

Disgyblion Ysgol Ciliau Parc o flynyddoedd Un a Derbyn fydd yn rhan o’r Osgordd.

Edrychwn ymlaen at weld pawb yn y Carnifal fis nesaf.