Bingo’r Brenhines Carnifal Felinfach

Cyhoeddi Brenhines a gosgordd Carnifal Felinfach

gan Rhian Jones
IMG_7801

Ar nos Wener 24ain o Fai cynhaliwyd Bingo yn Neuadd y Pentref i ddewis Brenhines a gosgordd y Carnifal eleni. Braf oedd gweld y Neuadd yn llawn.

Ficer Wyn oedd yn galw’r Bingo ac hanner amser cyhoeddwyd mai Elen Evans, Glasgoed yw’r Frenhines a’r morwynion yw Nyomi Birch, Martha Mair Davies, Holly Eve James, Elena Johnson Rose Radford a’r gweision yw Deio Siôn Ifans, Llion Jones, Tryfan Samuel Phillips a Ifan Williams o flwyddyn 2 Ysgol Felinfach. Diolch i bawb am gefnogi’r Bingo.

Edrychwn ymlaen at weld pawb  yn y Carnifal ar ddydd Sadwrn, 6ed o Orfennaf am 1.30 yn y Cae Chwarae.