Y Felin yn y Melyn

Y cwpan yn dychwelyd i Ddyffryn Aeron

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Cwpan Ieuenctid Ceredigion

Parc Troedyrhiw, Ffostrasol

Felinfach 6 Llambed 0

“Nid aur yw popeth melyn” medde’r dywediad. Ond fe ’roedd yr aur yn sicr yn disgleirio ar gae Parc Troedyrhiw, Ffostrasol, prynhawn ddoe wrth i dîm dan 19 oed Felinfach adenill Cwpan Ieuenctid Ceredigion. Fe gurwyd Llandudoch o 6-2, ar ôl amser ychwanegol, ar gae Llandysul y tymor diwethaf. Y prynhawn ’ma fe sgoriodd Y Felin yr un nifer o goliau yn erbyn tîm ieuenctid Llambed, ond iddynt beidio ildio’r un gôl yn y gêm derfynol eleni.

Pistillo’n drwm fu’r glaw yn arwain i’r gic gyntaf, ac ’roedd cefnogwyr y ddau glwb yn fwy na balch o fedru cysgodi rhag y cymylau duon uwchben, yn yr eisteddle,a chaban y lle te ger y ’stafelloedd newid.

Ond, fel oedd y gêm yn mynd yn ei flaen, yr unig beth fu’n bwrw oedd cefn rhwyd Llambed, wrth i’r goliau lifo mewn un ar ôl y llall.

Steffan Williams gafodd y gyntaf, wedi chwe munud yn unig. Hyn ar ôl cymorth gan Glen Evans, a gafodd gêm wych.

Fe ychwanegodd seren y gêm, Krzysztof Dolniak, y gyntaf o’i dair yn yr hanner cyntaf i’w wneud yn ddwy i Felin wedi wyth munud o’r chwarae. Ioan Evans yn ei gynorthwyo.

Seliwyd y fuddugoliaeth mwy neu lai wrth i groesiad Garan Davies o’r asgell i mewn i’r blwch cosbi, dwyllo golwr Llambed yn llwyr a disgyn yn gelfydd a siglo’r rhwydi am y trydydd tro o fewn llai nag ugain munud.

Anodd yw crafu ’nôl o 3-0 lawr ar y gorau, ond pan mae’r gwrthwynebwyr mor dda a’r talent ifanc sy’n bodoli yn Nyffryn Aeron, go brin fydd yr un tîm o fewn y gynghrair yn medru ei curo.

Fe rwydodd Krzysztof Dolniak ei ail gôl o’r gêm o waith cymorth Glen Evans yn y blwch i’w wneud yn bedair wedi 36 munud ar oriawr y dyfarnwr, ac o fewn munud i’r ail ddechrau, dyma Krzysztof Dolniak yn sgorio ei ‘hat-trick’ a phumed gôl y “Melynwyr”, wrth dderbyn cymorth gan Osian Kersey. Perfformiad gwych gan y gŵr ifanc o Wlad Pwyl.

Efo’r gêm drosodd fel cystadleuaeth erbyn dechrau’r ail hanner, fe frwydrodd Llambed yn ôl er mwyn cyfleu hunan barch ar ddiwrnod anodd iddynt. Er i’r haul ymddangos ei hun yn ystod y 45 munud olaf, cwmwl du wynebodd un o chwaraewyr Y Piod, pan dderbyniodd ei ail gerdyn melyn, ac felly orfodwyd iddo gymryd cawod gynnar gan y dyfarnwr.

Fe sgoriodd Felinfach bump gôl arbennig yn yr hanner cyntaf, ond o’r unig un gafwyd yn yr ail hanner, rhaid cyfaddef taw taran yr eilydd, Justin Guest, oedd yr orau. Fe brofir y fideo bach yma pa mor dda oedd hi. Krzysztof Dolniak yn ei fwydo, yn hytrach na rhwydo, y tro hyn.

O fewn pum munud, fe chwythodd y dyfarnwr, Rob Connolly, ei chwiban am y tro olaf, efo thîm Felinfach yn derbyn cymeradwyiaeth haeddianol gan y cefnogwyr wrth iddynt gipio’r cwpan am yr eildro’n olynnol.

Cryfder pob clwb gwerth ei halen ydy ei ieuenctid. Fe geir yn Felinfach garfan gryf o ieuenctid yn dod drwy’r sustem fel uned glos ag agos. Llongyfarchiadau i’r tîm ar y cae, ond mae rhaid canmol Llew, Gethin a Joe oedd wrth y llyw ar y fainc pnawn ’ma, heb anghofio cyfraniad Rhys Jon, oedd ar ddylwytseddau eraill pêl-droed heddiw, ac felly’n methu ymuno mewn yn y dathlu ar y cae.

Un gair bach o ganmoliaerh i Lambed am ei brwdfrydedd i greu gêm gystadleuol ohonni yn yr ail hanner. Mae colli gêm derfynol yn deimlad anodd. Ond mae cyrraedd yno yn y lle cyntaf i’w ganmol yn fawr. Fe ddaw llwyddiant ar ei rhan nhw cyn hir, boed fel ieuenctid neu wrth i rywfaint ohonynt anelu i chwarae efo’r tîm cyntaf neu’r ail cyn bo hir.

Ond diwrnod Y Felin oedd hi’n Ffostrasol heddiw, ac er taw nid aur ydy popeth melyn, fe all neb ddadlau fod y medalau aur o gwmpas gyddfau chwaraewyr Felinfach wedi’r gêm, yn llawn haeddu ei lle dros y crysau melyn.