Ar Ben ei digon

Terfynu’n Tegryn

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Crymych 1 Felinfach 5

Os ewch chi i chwilio am gae pêl-droed yng Nghrymych, fe fyddwch yn chwilio am byth os dim ond yn crwydro milltir sgwâr y pentref hyfryd yng ngogledd Sir Benfro. Oblegid fod Clwb Pêl-Droed Crymych yn chwarae ei gemau ryw dair milltir o ‘brifddinas’ y Preselau ar gyrion cymuned fach Tegryn. Mae’n le delfrydol i wylio pêl-droed, efo golygfeydd godidog o’i chwmpas. Lleolir y cae ar dir uchel, ac er bron yn Fehefin, digon miniog oedd yr awel ar ddiwedd gêm Felinfach yn erbyn y tîm cartref neithiwr. Ond ar y llaw arall, digon cynnes oedd hi ar y cae i fechgyn ifanc Felinfach, wrth iddynt gipio triphwynt yn weddol rwydd ar y noson. Triphwynt bwysig oedd hi hefyd, gan i’r fuddugoliaeth o 5-1 sicrhau yr ail safle i glwb Felinfach yng Nghyngrair Ceredigion am y tro cyntaf yn ei hanes.

Mae’n wir i ddweud iddi fod yn dymor anhygoel i dîm cyntaf y pentref, wrth iddynt gipio Cwpan Coffa Dai Dynamo Davies, cyrraedd gêm derfynol Cwpan y Gynghrair, ynghyd â gorffen yn ail yn y gyngrhair. Posib fod yr ail dîm wedi gweld pethe’n anoddach ar ôl dyrchafu i’r ail adran y llynedd, ond mae yna lawer i chwaraewr sy’n awyddus am sedd ar fainc y tîm cyntaf ac fe ddaw eu cyfle cyn hir. Ond mae’r hen bennau yn cadw’n ifanc yn y tîm yma, ac yn trosglwyddio eu profiad at les ehangach y clwb. Efo’r ieuenctid dan 19 oed yn cipio Cwpan Ieuenctid Cynghrair Ceredigion y Sul diwethaf, mae’r dyfydol yn edrych yn addawol iawn i’r clwb.

Ar noson weddol braf, fe ddechreuodd y gêm yn llawn cyffro, ac ‘roedd Felinfach am brofi’n drech na Chrymych am y pedwerydd tro y tymor yma. Pum munud yn unig gymerodd hi i Ben McEvoy daro taran o gic rydd i gefn rhwyd golwr y bustych. Fe brofir y fideo ei fod yn mynd mewn fel bwled. Dechreuad ardderchog, ac o fewn ryw chwe’ munud yn ddiweddarach, dyma Joe Jenkins yn sgorio’r ail ar ôl derbyn y bêl oddi wrth Rhys Jon James wedi amddiffyn llac yn y cefn gan Grymych. Bu ychydig o oedi tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf wrth i un o chwaraewyr Crymych orfod derbyn cymorth wrth adael y cae ar ôl derbyn ysgwydiad go ddifrifol. Gobeithio ei fod yn gwella erbyn hyn. Efo’r hanner cyntaf yn dirwyn i ben, ac i golwr Crymych ymdrechu’n ddewr i’w hatal, bu cymorth Rhys Williams wrth arwain y bêl tuag at Aled Davies yn ddigon iddo lwyddo efo’r drydydd, a gwneud y gêm yn weddol ddiogel i’w dîm.

Os ‘rydych erioed wedi gwynebu bustych mewn brwydr, fe fyddwch yn gwybod ei fod ddim am roi i fyny tan y diwedd. Dyna ydy ‘motto’ bustych Crymych hefyd, ac fe ddaeth clwb y Preselau ‘nôl mewn i’r gêm yn yr ail hanner. Bu raid i Tomos James yn y gôl gadw ei ddwylo yn dwym wrth arbed sawl cynnig at y gôl, ond ofer fu ymdrechion Crymych i gau’r bwlch ychydig. Efo’r noson yn parhau i oeri rywfaint, fe rwydodd yr eilydd ifanc, Osian Kersey, i’w gwneud yn bedair efo ychydig dros deg munud yn weddill. O fewn munudau, fe ychwanegodd un arall I gwblhau goliau’r Felin am y tymor. Dwy gôl arbennig o dda, efo’r ail un yn benniad celfydd oddiwrth groesiad eilydd ifanc arall, Krzysztof Dolniak. Y ddau wrth gwrs yn ran o dîm llwyddianus yr ieuenctid y Sul diwethaf yn erbyn Llambed ar gae Ffostrasol. Fe sgoriodd Crymych gôl fach haeddianol i roi rywfaint o hunan barch i’r gwesteiwyr, a fu bron i Rhys Jon James ychwanegu’r chweched wrth i’r bêl luthro allan o afael y golwr.

RhaId canmol cydbwysedd cyson clwb Felinfach wrth i’r chwaraewyr ifanc gyd-dynnu yn arbennig o dda efo ‘henoed’ y tîm, ac mae rhan fwyaf o rheiny ond yn ei dauddegau. O’r garfan neithiwr, ‘roedd pedwar ohonynt a ddechreuodd ond yn 17 oed. ‘Roedd dau arall yr un oedran ar y fainc, efo dau yn ychwanegol ond yn 16 oed. Mae’r capten, Gwion Davies, yn arwain y tîm yn urddasol ar y cae, ac mae arweiniad Llewelyn Davies fel rheolwr ar ochr y llinell yn ysgogi’r tîm i sicrhau llwyddiant i’r clwb. Rhaid cofio profiad Rhys Jon James a Gethin Thomas hefyd, sy’n allweddol ar, ac oddiar, y cae.

Terfynu’n Tegryn wnaeth y tymor felly, ac fe all Felinfach fod yn falch iawn o’u hunain wrth greu hanes yn y gynghrair a llenwi’r cwpwrdd tlysau efo cwpanau a medalau.