Camodd cenhedlaeth newydd o ieuenctid Dyffryn Aeron i lwyfan Eisteddfod yr Urdd eleni. Do, ganwyd pob un o aelodau’r Adran ers i’r Ŵyl gael ei chynnal yma yn 2010, ac mae rhai ohonynt yn blant i rai a fu’n cystadlu gydag Aelwyd Aeron bryd hynny!
Wedi’u llenwi â hyder yn dilyn ymateb gwresog y gynulleidfa yn yr Eisteddfod Sir ym Mhontrhydfendigaid, aeth y criw â’u cân actol i bafiliwn gwyrdd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Maldwyn yr wythnos hon.
Roedd y gân actol yn cyflwyno hanes gwibdaith mamgu a thadcu o Ddyffryn Aeron i Costa del Sol wedi i’r wyrion eu hanfon yno fel sypreis ar eu hymddeoliad. Cawsant wyliau llawn hwyl ac antur i gyfeiliant clasuron y band Edward H. Dafis, a dychwelodd y ddau wedi mwynhau ond gan gadarnhau nad oes unman tebyg i gartre.
Rhoddodd y plant berfformiad ardderchog, yn arbennig o ystyried nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi cystadlu ar lwyfan genedlaethol o’r blaen, a gadawodd y criw y llwyfan unwaith eto i fonllefau o gymeradwyaeth.
Doedd y beirniad ddim wedi gosod yr Adran yn y tri uchaf o’r wyth yn y gystadleuaeth, ond roedd Dyffryn Aeron eisoes wedi ennill beth bynnag fyddai’r canlyniad y prynhawn hwnnw.
Dyma blant sy’n byw trwy’r newid mwyaf i addysg gynradd y dyffryn ers cenedlaethau. Mae’r mwyafrif ohonynt yn ddisgyblion o’r tair ysgol – Dihewyd, Felinfach a Chiliau Parc – fydd yn cau eu drysau am y tro olaf eleni. A dyma nhw, trwy waith yr Adran newydd, eisoes wedi cael cyfle i gydweithio, dod i adnabod ei gilydd yn well, a dangos beth sy’n bosib cyn ymuno â’i gilydd fel cyd-ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aeron y flwyddyn nesaf.
Llongyfarchiadau mawr i’r plant a diolch o galon i’r arweinyddion a’r rhieni. Rydych chi wedi ein llenwi â gobaith wrth wynebu’r dyfodol. Does dim angen mynd i Costa Del Sol pan mae’r haul yn tywynnu fel hyn ar Ddyffryn Aeron!