Cafwyd diwrnod arbennig brynhawn ddoe, dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024, yng Ngharnifal Ciliau Aeron.
Brenin, Brenhines a Gosgordd y Carnifal
Y Brenin eleni oedd Siôn Alun Davies, a’r Frenhines oedd Lili-Wen Storer. Gydag Ysgolion Ciliau Parc, Dihewyd a Felinfach yn uno ym mis Ionawr gydag agoriad Ysgol Dyffryn Aeron, efallai taw dyma’r tro olaf y byddai Brenin, Brenhines a Gosgordd yng Ngharnifal Ciliau Aeron. Felly, er mwyn sicrhau bod pob un plentyn presennol Ysgol Ciliau Parc wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r osgordd, gwahoddwyd disgyblion blynyddoedd 1, Derbyn a Derbyn Bach i fod yn rhan o’r osgordd eleni. A dyma nhw:
Blwyddyn 1: Benjamin Eadon, Cadi-Alys Garner Evans, Thomas Fear, Malia Jones, Cadi Lewis, Fflur Thomas, George Robertson, Osshi Lewis, Fergus Lewis, Rudy Lovell, Siôn Davies, Penny Fresle,
Derbyn: Elliw Williams, Leti-Grês Davies, Nel Evans, Aderyn Brown, Seren Perry, Elis Davies, Dion Davies
Derbyn Bach: Connie Lovell, Bryn Edkins, Osian Lewis,
Y beirniaid eleni oedd David a Jenine Hubbard, sydd wedi ymgartrefu yn y pentref yn ddiweddar.
Cafwyd cefnogaeth dda iawn i’r cystadlaethau gwisg ffansi, a dyma’r canlyniadau:
Plant 2 oed ac iau
1af – Elen Perry (Tylwythen Deg)
2il – Dafydd Rose (Josh Tarling)
3ydd – Idris Lewis (Ben Lake)
Plant Meithrin a Dosbarth Derbyn
1af – Leti-Grês Davies (Taylor Swift)
2il – Levi Davies (Woody)
3ydd – Bryn Edkins (Paddington Bear)
Plant Blynyddoedd 1 a 2
1af – Fflur Thomas (Bookworm – sy’n gwrthwynebu ail-leoli Llyfrgell Aberaeron)
2il – Dewi Evans (Marchogwr Deinosor)
3ydd – Cadi-Alys Garner Evans (cheerleader Louis Rees-Zammit)
Plant Blynyddoedd 3 a 4
1af – Gruff Dafydd (Louis Rees-Zammit)
2il – Ffion Evans (gymnastwraig)
3ydd – Bleddyn Thomas (Gweithiwr Amddiffynfa Harbwr Aberaeron)
Plant Blynyddoedd 5 a 6
1af – Lili-Wen Storer (Syffrajet)
2il – Gwenno Dafydd (Taylor Swift)
Plant Uwchradd ac Oedolion
1af – Meinir Edwards (Nessa)
2il – Lea Thomas (Vote for Granny)
3ydd – Dylan Williams (Gerald)
Cymeriad Gorau oddi ar y Teledu
1af – Gruff Dafydd (Gary Linekar)
2il – Fflur Thomas (Wonderworm)
3ydd – Alwen Thomas (Dipsy)
Pâr neu Grŵp Gorau
1af – Nel a Rhun Evans (Swiftie Mwya Ceredigion – Ben Swiftie!)
Enillydd yr Enillwyr – Leti-Grês Davies (Taylor Swift)
Yn dilyn y cystadlaethau gwisg ffansi cynhaliwyd rasus amrywiol, cystadleuaeth taflu weli, tynnu’r gelyn, ac yna cafwyd gemau ‘It’s A Knockout’ gyda phawb wrh eu boddau.
Roedd hi mor braf i weld y gymuned yn dod at ei gilydd a phawb yn mwynhau yng nghwmni ei gilydd. Mawr yw’r diolch i bawb a oedd yn rhan o drefniadau’r diwrnod ac a gyfrannodd at lwyddiant y Carnifal.
Cofiwch gefnogi Carnifal Ciliau Aeron 2025!