Etholiad 2024: Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion Preseli

Dilynwch y diweddaraf o’r cyfri a chyfranwch i’r llif byw

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.

Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.

00:25

Dyma fel oedd hi nôl yn Etholiad 2019 – Ben Lake yn cael ei ethol gyda mwyafrif o 37.9% o’r bleidlais, ond etholaeth dipyn yn wahanol yw hi eleni…

00:22

1720135171249822191169923686999

Teimladau Tomos Barlow, ymgeisydd y Gwyrddion, “mae’n llawer gwell na 2019 i ni”.

Doedden nhw byth yn disgwyl ennill, ond mae yna bleidlais. Mae’n rhyfeddu at gwymp y Democratiaid Rhyddfrydol yma.

00:13

Agoriad llygad siarad gyda dau o gefnogwyr Reform sydd yma yn eu cownt cynta.

Maen nhw’n hapus iawn gyda sut mae’r pleidleisiau’n edrych yma. Yn ddiddorol roedden nhw wedi meddwl helpu gyda’r ymgyrch ond doedd “dim angen” – dim galwad i gnocio drysau, dim angen mynd â thaflenni rownd. Mae’n debyg mai trwy gyfryngau eraill y mae Reform wedi cael eu dylanwad ar y bobol. Ac mae hynny wedi gweithio…

00:08

Peth diddorol yw siarad gydag ymgeiswyr am hanner nos noson etholiad. Sdim byd da nhw i gwato – sdim modd perswadio mwy i bleidleisio.

Felly y farn onest gan Aled Thomas o’r Cedwadwyr yw teimlad o siom. Mae ganddyn nhw bleidlais, ond mae lot fawr ohono wedi mynd i Reform. Mae’n poeni ni yn unig am noson wael iddo fe, ond hefyd yn Ne Sir Benfro lle mae wedi bod yn ymgyrchu.

00:07

“Noson uffernol” hyd yn hyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion Preseli, yn ôl un o gynrychiolwyr y blaid, a’r samplau sydd wedi cyrraedd yn barod yn chwalu gobeithion y blaid o gipio’r ail safle.

Mae dros hanner o’r bocsys eto i gyrraedd felly gall bopeth newid!

Ond y si cyffredinol gan y pleidiau yw bod Reform UK yn neud yn dda iawn ar hyn o bryd. 

23:48

Bach o info ymarferol o’r cownt ma.

Mae nhw wrthi’n sortio pleidleisiau yma yn Llandysul. Bydd angen agor pob bocs, cyn dachre acshiwali cyfri pleidleisiau.

Hyd yn hyn mae bron i hanner y bocsys wedi cyrraedd y neuadd. 54 bocs ar ól i ddod yma.

Mae’n debyg bod fan Llanbed tu fas, bod fan sy’n dal bocsys ardal Crymych bron â bod ma, a nawr mae fan ardal Aberystwyth yn dachre’r siwrne lawr!

Felly mae’n saff i weud nid Ceredigion Preseli fydd y sedd gynta i gael ei chyhoeddi heno!

Ond mae pawb yn gweithio fel slecs ma!

23:30

Mae’r pleidiau’n wrthi’n samplo’r pleidleisiau fesul ward, ac ar hyn o bryd mae samplau rhai o bentrefi canol Ceredigion yn dangos rhywle rhwng 42-58% o’r bleidlais dros Blaid Cymru, ond mae sbel i fynd!

23:05

Mae oriau gyda ni i ddisgwyl am canlyniad, felly cwestiwn i chi gyd adre! Ni eisiau gwbod eich predictions chi ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli… pwy yw eich pedwar uchaf ac ym mha drefn?

Rhowch wybod wrth wasgu YMATEB isod.

Iwan Thomas
Iwan Thomas

Beth am fentro fel hyn de: Ben i gadw ei sedd…Rhyddfrydwyr yn ail, Rîfform yn 3ydd agos iawn a Llafur yn 4ydd.

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:00

Yr olaf mewn cyfres o gyfweliadau fideo gydag ymgeiswyr Ceredigion Preseli, Aled Thomas o’r Ceidwadwyr.

Cyfweliad Aled Thomas

*Derbyniodd y 7 ymgeisydd  gynnig i ymddangos mewn cyfweliad ond ni chafwyd ymateb i drefnu gyda’r rheiny nad ydynt yn y gyfres (Taghrid Al-Mawed, Workers Party of Britain; Karl Pollard, Reform UK)

22:51

Jackie Jones, y Blaid Lafur a Chydweithredol yw’r nesaf yn ein cyfres o gyfweliadau gyda’r ymgeiswyr.

Cyfweliad Jackie Jones