Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.
Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.
Dau lun o ddau gyfnod gwahanol o’r noson.
Y cynta – y canolbwyntio, wrth i dimau ymgyrchu y pleidiau samplo’r pleidleisiau.
Yr ail – te a snacks ac ‘ymlacio’ mae’r timau, wrth ddisgwyl y cyfri. Ac mae lot o gyfri i’w wneud…
Turnout o 61.38% yng Ngheredigion Preseli.
(Er gwybodaeth, 71.34% oedd turnout Ceredigion yn 2019 – i lawr bron i 10% ar 2019)
Mae’r bocsys i gyd mewn, heb glywed y turnout eto!
O’r samplau i ni’n clywed amdano, y ffigwr fwyaf syfrdanol i Blaid Cymru yw bocs ward Eglwyswrw gyda 69.8% o’r bleidlais.
Sylwadau cynnar Aled Thomas o’r Ceidwadwyr
Os oes diddordeb da chi mewn shwt ma pethe’n siapo tu fas i’r sir ma, ewch i flog byw golwg360 lle cewch glywed y sylwebaeth a’r sïon ar draws Cymru a thu hwnt.
Ni wedi bod yn twrio yn yr archif a drychwch ar beth ni di ffindo… Etholiad 2019 a Mark Williams yn datgan na fyddai’n sefyll eto fel Aelod Seneddol gan fod “20 mlynedd o wleidyddiaeth yn eitha’ digon”… tybed beth fydd ei ymateb yn dilyn y canlyniad y tro hwn?
Edrychwch ar flog byw Etholiad 2019 yma!
Mae un sampl o’r pleidleisiau yn dangos 62% o’r bleidlais i Blaid Cymru. Allwch chi ddyfalu pa focs?
Cliw – tref.
Dyfalwch trwy bwyso Ymateb! 👇👇👇
Dyma fel oedd hi nôl yn Etholiad 2019 – Ben Lake yn cael ei ethol gyda mwyafrif o 37.9% o’r bleidlais, ond etholaeth dipyn yn wahanol yw hi eleni…
Teimladau Tomos Barlow, ymgeisydd y Gwyrddion, “mae’n llawer gwell na 2019 i ni”.
Doedden nhw byth yn disgwyl ennill, ond mae yna bleidlais. Mae’n rhyfeddu at gwymp y Democratiaid Rhyddfrydol yma.