Beth am fentro fel hyn de: Ben i gadw ei sedd…Rhyddfrydwyr yn ail, Rîfform yn 3ydd agos iawn a Llafur yn 4ydd.
Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.
Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.
Mae oriau gyda ni i ddisgwyl am canlyniad, felly cwestiwn i chi gyd adre! Ni eisiau gwbod eich predictions chi ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli… pwy yw eich pedwar uchaf ac ym mha drefn?
Rhowch wybod wrth wasgu YMATEB isod.
Yr olaf mewn cyfres o gyfweliadau fideo gydag ymgeiswyr Ceredigion Preseli, Aled Thomas o’r Ceidwadwyr.
*Derbyniodd y 7 ymgeisydd gynnig i ymddangos mewn cyfweliad ond ni chafwyd ymateb i drefnu gyda’r rheiny nad ydynt yn y gyfres (Taghrid Al-Mawed, Workers Party of Britain; Karl Pollard, Reform UK)
Jackie Jones, y Blaid Lafur a Chydweithredol yw’r nesaf yn ein cyfres o gyfweliadau gyda’r ymgeiswyr.
“Tua 13,000 o bleidleisiau post” yn ôl y sôn, ac mae’r bocsys pleidleisio yn dechrau cyrraedd.
A fuoch chi mewn gorsaf pleidleisio heddi neu oeddech chi’n un o’r miloedd a phleidleisiodd drwy’r post? Rhowch wybod!
Cyfweliad Ben Lake, Plaid Cymru sydd nesaf.
Tomos Barlow, Y Blaid Werdd yw’r nesaf i ymaddangos mewn cyfres o gyfweliadau gyda rhwydwaith Bro360.
Eisiau gwybod mwy am yr ymgesiwyr, eu polisïau ac addewidion i Geredigion Preseli?
Y cyntaf mewn cyfres o gyfweliadau gyda’r ymgeiswyr – Mark Williams, y Democratiaid Rhyddfrydol.
95 ward angen eu cyfri… noson hir a phrysur o’n blaenau!
Pwy fydd yn mynd â hi?
Mae’r gorsfaoedd pleidleisio wedi cau a phawb yn barod i ddethol a chyfri’r pleidleisiau. Aros i’r bocsys i gyrraedd nawr.