Etholiad 2024: Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion Preseli

Dilynwch y diweddaraf o’r cyfri a chyfranwch i’r llif byw

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.

Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.

23:30

Mae’r pleidiau’n wrthi’n samplo’r pleidleisiau fesul ward, ac ar hyn o bryd mae samplau rhai o bentrefi canol Ceredigion yn dangos rhywle rhwng 42-58% o’r bleidlais dros Blaid Cymru, ond mae sbel i fynd!

23:05

Mae oriau gyda ni i ddisgwyl am canlyniad, felly cwestiwn i chi gyd adre! Ni eisiau gwbod eich predictions chi ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli… pwy yw eich pedwar uchaf ac ym mha drefn?

Rhowch wybod wrth wasgu YMATEB isod.

Iwan Thomas
Iwan Thomas

Beth am fentro fel hyn de: Ben i gadw ei sedd…Rhyddfrydwyr yn ail, Rîfform yn 3ydd agos iawn a Llafur yn 4ydd.

Mae’r sylwadau wedi cau.

23:00

Yr olaf mewn cyfres o gyfweliadau fideo gydag ymgeiswyr Ceredigion Preseli, Aled Thomas o’r Ceidwadwyr.

Cyfweliad Aled Thomas

*Derbyniodd y 7 ymgeisydd  gynnig i ymddangos mewn cyfweliad ond ni chafwyd ymateb i drefnu gyda’r rheiny nad ydynt yn y gyfres (Taghrid Al-Mawed, Workers Party of Britain; Karl Pollard, Reform UK)

22:51

Jackie Jones, y Blaid Lafur a Chydweithredol yw’r nesaf yn ein cyfres o gyfweliadau gyda’r ymgeiswyr.

Cyfweliad Jackie Jones

22:48

“Tua 13,000 o bleidleisiau post” yn ôl y sôn, ac mae’r bocsys pleidleisio yn dechrau cyrraedd.

A fuoch chi mewn gorsaf pleidleisio heddi neu oeddech chi’n un o’r miloedd a phleidleisiodd drwy’r post? Rhowch wybod!

22:39

Cyfweliad Ben Lake, Plaid Cymru sydd nesaf. 

Cyfweliad Ben Lake

22:34

Tomos Barlow, Y Blaid Werdd yw’r nesaf i ymaddangos mewn cyfres o gyfweliadau gyda rhwydwaith Bro360.

Cyfweliad Tomos Barlow

22:21

Eisiau gwybod mwy am yr ymgesiwyr, eu polisïau ac addewidion i Geredigion Preseli?

Y cyntaf mewn cyfres o gyfweliadau gyda’r ymgeiswyr – Mark Williams, y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyfweliad Mark Williams

22:10

95 ward angen eu cyfri… noson hir a phrysur o’n blaenau! 

Pwy fydd yn mynd â hi?

22:03

Mae’r gorsfaoedd pleidleisio wedi cau a phawb yn barod i ddethol a chyfri’r pleidleisiau. Aros i’r bocsys i gyrraedd nawr.