Etholiad 2024: Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion Preseli

Dilynwch y diweddaraf o’r cyfri a chyfranwch i’r llif byw

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Croeso i flog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yn Ysgol Bro Teifi.

Arhoswch gyda ni tan oriau mân y bore wrth i ni ddod â’r diweddaraf i chi o ganlyniad etholaeth newydd Ceredigion Preseli.

01:24

O’r samplau i ni’n clywed amdano, y ffigwr fwyaf syfrdanol i Blaid Cymru yw bocs ward Eglwyswrw gyda 69.8% o’r bleidlais. 

01:11

Sylwadau cynnar Aled Thomas o’r Ceidwadwyr

00:39

Os oes diddordeb da chi mewn shwt ma pethe’n siapo tu fas i’r sir ma, ewch i flog byw golwg360 lle cewch glywed y sylwebaeth a’r sïon ar draws Cymru a thu hwnt.

00:35

Blog Byw o’r Etholiad yn 2019

Ni wedi bod yn twrio yn yr archif a drychwch ar beth ni di ffindo… Etholiad 2019 a Mark Williams yn datgan na fyddai’n sefyll eto fel Aelod Seneddol gan fod “20 mlynedd o wleidyddiaeth yn eitha’ digon”… tybed beth fydd ei ymateb yn dilyn y canlyniad y tro hwn? 

Edrychwch ar flog byw Etholiad 2019 yma!

00:26

17201355003631517160011134241040

Mae un sampl o’r pleidleisiau yn dangos 62% o’r bleidlais i Blaid Cymru. Allwch chi ddyfalu pa focs?

Cliw – tref.

Dyfalwch trwy bwyso Ymateb! 👇👇👇

00:25

Dyma fel oedd hi nôl yn Etholiad 2019 – Ben Lake yn cael ei ethol gyda mwyafrif o 37.9% o’r bleidlais, ond etholaeth dipyn yn wahanol yw hi eleni…

00:22

1720135171249822191169923686999

Teimladau Tomos Barlow, ymgeisydd y Gwyrddion, “mae’n llawer gwell na 2019 i ni”.

Doedden nhw byth yn disgwyl ennill, ond mae yna bleidlais. Mae’n rhyfeddu at gwymp y Democratiaid Rhyddfrydol yma.

00:13

Agoriad llygad siarad gyda dau o gefnogwyr Reform sydd yma yn eu cownt cynta.

Maen nhw’n hapus iawn gyda sut mae’r pleidleisiau’n edrych yma. Yn ddiddorol roedden nhw wedi meddwl helpu gyda’r ymgyrch ond doedd “dim angen” – dim galwad i gnocio drysau, dim angen mynd â thaflenni rownd. Mae’n debyg mai trwy gyfryngau eraill y mae Reform wedi cael eu dylanwad ar y bobol. Ac mae hynny wedi gweithio…

00:08

Peth diddorol yw siarad gydag ymgeiswyr am hanner nos noson etholiad. Sdim byd da nhw i gwato – sdim modd perswadio mwy i bleidleisio.

Felly y farn onest gan Aled Thomas o’r Cedwadwyr yw teimlad o siom. Mae ganddyn nhw bleidlais, ond mae lot fawr ohono wedi mynd i Reform. Mae’n poeni ni yn unig am noson wael iddo fe, ond hefyd yn Ne Sir Benfro lle mae wedi bod yn ymgyrchu.

00:07

“Noson uffernol” hyd yn hyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion Preseli, yn ôl un o gynrychiolwyr y blaid, a’r samplau sydd wedi cyrraedd yn barod yn chwalu gobeithion y blaid o gipio’r ail safle.

Mae dros hanner o’r bocsys eto i gyrraedd felly gall bopeth newid!

Ond y si cyffredinol gan y pleidiau yw bod Reform UK yn neud yn dda iawn ar hyn o bryd.