A.C. Melin – Rossoneri Dyffryn Aeron!

Llandysul 0 Felinfach 3

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Cyn fy mod yn palu mewn i adroddiad o fuddugoliaeth tîm cyntaf Felinfach lawr yn Nyffryn Teifi neithiwr, hoffwn esbonio teitl y darn yma yn ei gyfanrwydd.  Fe wyddoch pan ffurfiwyd Clwb Pêl-Droed Felinfach yn 1980, taw lliwiau y crysau cyntaf oedd streipiau glas a du, yn union fel rhai Internazionale (Inter Milan) o’r Eidal.  Efo ychydig o newidiadau dros y blynyddoedd, dyma liwiau cartref Felinfach hyd heddiw.  Ond, wrth i’r tîm presennol gymryd at y maes ar Barc Llandysul i wynebu ei gwrthwynebwyr ar lannau’r afon Teifi, ‘roedd lliwiau’r Felin yn hollol wahanol i’r arfer ac yn debycach i rai sy’n perthyn i brif elynion Inter, sef Associazione Calcio Milan (A.C. Milan).  Gelwir y clwb arall yma o Milano fel y ‘rossoneri’, sef coch a du yn Eidaleg.  Am y tro cyntaf mewn hanes, os nag oes rhywun yn gwybod yn wahanol, dyma’r tro cyntaf i Felinfach chwarae mewn coch.  Cit oddi cartref, neu pan fydd lliwiau dau glwb yn gwrthdaro, fydd hwn i’r Felin y tymor hyn.  Cit newydd sbon felly, ac yn edrych yn smart iawn hefyd.

Ymlaen at y gêm felly, ac ar noson gymylog, weddol dywyll ei golwg ar brydiau, ‘roedd y newydd ddyfodiaid i’r adran gyntaf o gynghrair Ceredigion yn barod i herio’r clwb orffennodd yn ail yn y gyngrhair llynedd.  Er bod tri chwaraewr ond yn 17 mlwydd oed yn dechrau i Felin neithiwr, mae’r tri erbyn hyn yn brofiadol o fechgyn mor ifanc, ac yn ymdopi yn hynod o gyfforddus yn y tîm cyntaf.  Neb yn fwy na Rhys Williams, sydd ar dân ar y foment wrth iddo gipio ei ‘hat-trick’ yn erbyn Llandysul neithiwr.  Tair gôl arbennig i ychwanegu at y bedair mae wedi rhwydo’n barod mewn pedair gêm gynghrair yn unig, i sicrhau ei safle ar yr uchelfannau o Gynghrair Ceredigion. Goliau iddo ymhob gêm hyd yn hyn. Yn y fideo fe welir ef yn sgorio ei ail o’r noson ar ôl cymorth gan Rhys Jon James.

Fe reolodd Felinfach yr hanner cyntaf, efo’r chwarae rhan fwyaf o’r amser yn hanner Llandysul o’r cae.  Bu bron i Dan James roddi’r coch a du ar y blaen o gic rydd cyn chwarter awr, ond taro a siglo’r trawst wnaeth y bêl o’i gic gelfydd a glanio ar faes y cae criced tu ôl i’r coed.  Ond fe aeth Felinfach yn haeddianol ar y blaen wrth i Joe Jenkins fwydo Rhys i’w rhoi nhw ar y blaen wedi tua chwarter awr yn unig.  Prin fu’r cyfleuon i Landysul yn ystod yr adeg yma, ac fe sgoriwyd yr ail gôl efo thua deng munud o’r hanner cyntaf yn weddill.  Y Felin felly yn mynd mewn i’r stafelloedd newid yn hapus ei byd efo’i perfformiad hyd yma.

Fe wnes innau gymryd mantais o eistedd ar foncyffion o dan y coed tu ôl i golwr Llandysul, Seb Heal-White, yn yr ail hanner.  Hyn er mwyn yr olygfa orau bosib i gymryd fideo pan oedd Felinfach yn ymosod, ac hefyd er mwyn cysgodi rhag y glaw mân fu’n disgyn yn gyson o’r cymylau drwy gydol gweddill y gêm.  Chefais i ddim o’n siomi wrth i’r newydd ddyfodiad i’r clwb, Jay Johnson, redeg ar ochr dde y cwrt cosbi ac amseru’r bêl yn berffaith tuag at Rhys i rwydo ei drydydd, ryw funud cyn y chwiban olaf.  Bu Jay yn aelod o glwb Llandysul ar ddau wahanol achlysur yn ei yrfa pêl-droed hyd yma, ond ar lyfrau Castellnewydd Emlyn ‘roedd y tymor diwethaf.

Er i Landysul wella’n aruthrol yn yr ail hanner, noson Felinfach, ac yn enwedig noson Rhys Williams, oedd hon.  Prin fu’r cyfleuon i’r Gwenoliad ddod ‘nôl mewn iddi, ond mae cae Llandysul yn un odidog i wylio pêl-droed, ac amryw o chwaraeon eraill sydd ar y caeau cyfagos – yn enwedig criced.  Ardal braf, croeso cynnes yn y clwb sydd wastad yn gweini cwpaned o de blasus mewn mwg y clwb criced.

Wrth orffen y darn yma, fe hoffwn dynnu sylw i’r ffaith fod Felinfach ond wedi ei sefydlu fel clwb yn 1980 wrth gwrs.  Fe allaf brofi ar y llaw arall, fod y bêl gron wedi ei chwarae yn Llandysul ers o leiaf 147 o flynyddoedd, gan iddynt gwrdd â’i cymdogion, Castellnewydd Emlyn, a cholli o ddwy gôl i ddim ym mis Chwefror 1877.  Beth am gêm gyntaf Felinfach yn ei herbyn?  Wel, yn sicr, o’r tymor cyntaf un yn 1980/81, fe chwaraeodd eilyddion Llandysul yn yr ail adran o’r gynghrair yn erbyn y ‘Nerazzurri’ (glas a du) o Ddyffryn Aeron.  Ond, ‘roedd hi’n dymor 1985/86 nes i’r ddau dîm cyntaf gwrdd yn y brif adran.  Tymor trychinebus oedd hon i’r Felin, wrth iddynt ddisgyn yn syth yn ôl i’r ail adran, ond fe gafwyd gêm agos rhyngddynt gartref ar Gae Chwarae Felinfach, wrth i David Gordon sgorio unig gôl y gêm dros Landysul ar ddechrau Tachwedd 1985.  Yn y gêm gyfatebol ar gae Llandysul ym mis Mawrth 1986, enillodd y tîm cartref o 4-2, er i Felinfach fynd ar y blaen o 2-1 ar un amser pan beniodd Robin Williams drostynt, cyn i Aled Jones ddwbli ei mantais yn gynnar yn yr ail hanner.  Ond brofodd Llandysul yn rhy gryf efo goliau gan Dean Leask, Kevin Reynolds a dwy gan un o hoelion wyth y clwb – Jeff Davies.  Jeff gyda llaw oedd y person cyntaf i mi sgwrsio efo neithiwr wrth i mi gyrraedd y cae wedi i’r gêm ddechrau.

Wrth gau pen y mwdwl yn gyfangwbl, hoffwn ddiolch i fy mrawd Islwyn am feddwl am yr enw A.C. Melin am deitl y darn hwn.  Tybed beth fyddent yn ei feddwl mas yn Milan pe newidiwyd enw cae Felinfach i San Siro II – neu San Siro Dai!