Athletwyr lleol yn disgleirio mewn Twrnament KungFu Shaolin
A hwythau wedi dangos sgil a disgyblaeth yn y grefft o ymladd (martial arts), daeth cystadleuwyr o Glwb Aberaeron Nam Pai Chuan Kungfu â llu o fedalau adref o Dwrnament Cenedlaethol mawreddog Shaolin Kung Fu a gynhaliwyd yn Llundain dros benwythnos 23-24 Tachwedd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cystadlaethau spario (sparring) a ffurfiau Shaolin traddodiadol ar draws categorïau plant ac oedolion, gan ddenu cystadleuwyr o bob rhan o’r DU a Gwlad Belg.
Cipiodd myfyrwyr Aberaeron dair medal aur a dwy fedal efydd, gan ddangos llawer o sgil yn y grefft.
Enillwyr y medalau aur oedd Lowri James-Evans, a enillodd y categori spario merched 15 oed i’r beltiau du, ei chwaer, Hanna James-Evans, a enillodd y categori spario iau 12-13 oed, a Huw Rishko, a enillodd y categori spario i fechgyn 14 oed i’r beltiau du, pob un ohonynt yn perfformio ar lefel eithriadol gan drechu gwrthwynebwyr medrus dros ben.
Sicrhawyd medalau efydd gan Huw Rishko yn y categori ffurf llaw wag (empty-hand form) i blant, gan ddangos cywirdeb a hylifedd yn ei berfformiad, a Dafydd Tudur yn y categori spario pwysau trwm i oedolion.
Dangosodd yr holl gystadleuwyr wydnwch ac ymroddiad rhyfeddol, gan ennill clod gan feirniaid a gwylwyr fel ei gilydd.
Amlygodd y twrnament ddisgyblaeth ac athroniaeth Shaolin Kung Fu, gan gyfuno technegau ymladd â ffocws meddyliol. Mynegodd yr hyfforddwr lleol Alun Rishko ei falchder yng nghampau’r tîm: “Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein athletwyr i’w hyfforddiant. Nid yw’n ymwneud â medalau yn unig, ond â thwf personol ac anrhydeddu’r Shaolin Nam Pai Chuan.”
Mae dosbarthiadau Clwb Aberaeron Nam Pai Chuan Kungfu yn cael eu cynnal yn Neuadd Felinfach rhwng 6.30 ac 8 ar nos Iau ac yn Neuadd Goffa Aberaeron rhwng 6 ac 8 bob nos Sul. Mae croeso i bawb o bob oed i ddod i wylio neu ymuno â’r dosbarth.