“Asgellwyr addysgiadol Aberaeron”

Hanes cynnar rygbi yn Aberaeron (Rhan 3)

Aled Bont Jones
gan Aled Bont Jones

Dyma ni unwaith eto’n edrych ‘nôl ar hanes cynnar rygbi yn Aberaeron wrth i mi droedio bant ychydig oddiwrth enwau a gwybodaeth pellach am chwaraewyr. Heblaw am ddau serch hynny, mi fydd y wybodaeth yna’n gliriach nes ymlaen.

Fe adroddodd y ‘Welsh Gazette’ 24ain Ionawr 1907 i gêm gymryd lle yn y dre yr wythnos gynt. “A highly interesting Rugger match was witnessed on the Town Athletic Grounds, last Thursday, between teams representing the Town and the School.” Does dim dwywaith pwy wynebodd ei gilydd, ond mae lleoliad y gêm yn dipyn o ddirgelwch i mi.  ‘Rwyn cymryd yn ganiataol taw’r Cae Sgwâr oedd “Town Athletic Grounds.” Byddai’n dweud taw tir yr ysgol ydoedd fel arall, a’r unig gae allaf feddwl am ydy’r un athletau ac hoci presennol, ond a fyddai hwnnw’n gae chwaraeon ym 1907? ‘Dwi ddim yn meddwl fyddai beth sydd heddiw’n Cae’r Lli, yn “Town Athletic Grounds!” Ble bynnag ei chynhelir, ‘rwyn siwr fod edrych ymlaen iddi’n arw o gwmpas y dre ar ôl perfformiad arbennig tîm y dref yn y gêm gyntaf yn erbyn Llambed yn gynharach yn ystod y mis. Rhaid cofio tro hyn hefyd taw hon fyddai’r gêm gyntaf erioed i’r ysgol ei chwarae yn y math yma o bêl-droed. Unwaith eto, tîm pêl-droed efo pêl crwn fyddai gêm naturiol y bechgyn o’r cychwyn cyntaf pan agorodd yr ysgol uwchradd ym 1896.

Gan gofio fod rygbi wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghwricwlwm yr ysgol ers cyn cof, gydag ambell un o’i disgyblion yn serennu ar y lefel uchaf wrth chwarae i Gymru ar wahanol lefelau dros y degawdau, fe gymerodd dros ddegawd ers ei hagor i siap y bêl newid. Fel adroddodd y ‘Welsh Gazette’ unwaith eto, “A great deal of interest was taken in the fixture, and this was shown by the unusual number of Rugby enthusiasts “round the ropes.”  Both teams were able to give a satisfactory display in a game which the majority of them had never had much experience.”

Gyda hwy yn lawer yn hynach mewn oedran, fe brofodd pac y dre yn lawer cryfach a thrymach nag unigolion yr ysgol. Does dim enwau llawn o’r chwaraewyr gen i tro hyn, ond fe sgoriodd mab i brif feistr Y Wyrcws, Hamilton Evans, ddwy gais dros y dref, ac fe aeth un o deulu’r Pugh drosodd am un hefyd. Does dim sicrwydd pa un aeth dros y llinell, ond tybiwn taw William Pugh, Paris House, ydoedd yn hytrach na’i frawd ifancach, Henry Loyn Pugh. Fe sgoriodd unig gais Aberaeron yn erbyn Llambed bron bythefnos ynghynt.

Ond, ‘doedd y disgyblion ddim am roi lan mor rhwydd â hynny, fel adroddir.  “Nothing daunted, the “Students” played up with vim and courage, and after a capital soccer dribble, Oswald Jones drew first blood for them.” Does dim son am yr un trosiad i’r pedwar cais o’r hanner cyntaf, ond fe aeth tîm y dref mewn ar hanner amser 11-5 ar y blaen.  Gyda cheisiadau’n werth triphwynt yr un a throsiad yn ddwy, mae’n amlwg i’r dref drosi un yn unig, a’r ysgol yn llwyddianus efo un hwythau.

Ar ddechrau’r ail hanner fe aeth adroddiad y papur newydd lleol i ddatgan, “In the early stages of the second half, Seymour Rees, the School custodian, got possession of the leather, and darting off at top speed, scored the second try, but the kick failed.” Byddaf yn sôn lawer mwy am Seymour Rees nes ymlaen, achos os gofiwch chi, fe ymddangosodd dros Aberaeron yn y gêm yn erbyn Llambed. Ond dros yr ysgol fu’n dangos ei ddoniau ar y prynhawn Iau hyn.

Yn anffodus i’r chwaraewyr a’r mynychwyr ymysg yr “unusual number of Rugby enthusiasts,” gorfodwyd i’r gêm ddod i ben ond wedi ryw chwarter awr o’r chwarae yn yr ail hanner oherwydd i ansawdd y golau  ddisgyn. Rhaid fod y gêm wedi dechrau’n hwyrach na’r hyn ddisgwylid felly – neu aeth yr hanner amser ymlaen ychydig yn ormod. Nid yn anarferol yr adeg yna. Gorffen yn gynnar wnaeth hi, efo dim rhagor o bwyntiau ar y sgorfwrdd. Mi obeithiwyd am fwy o gemau tebyg yn y dyfydol wrth i’r ‘Welsh Gazette’ orffen ei adroddiad.  “A fine spirit had distinguished the play from the start to the finish, and although this was the first game in the “sister code,” between these two teams, it was freely hoped on all sides, that it would not be the last.

Canlyniad: Tref Aberaeron 11 Ysgol Sir Aberaeron 8

O’r chwaraewyr gynrychiolodd y disgyblion, enwid Oswald Jones a Seymour Rees yn yr adroddiad. Fel soniais ynghynt, fe ymddangosodd Seymour Rees dros y dref yn ei gêm gyntaf, ond beth am hanes y llall â fu’n nhîm yr ysgol?

Oswald Jones

‘Roedd Oswald Jones yn 16 mlwydd oed ar y pryd, a dim ond croesi’r hewl o’i gartref oedd ganddo os profir taw ar y Cae Sgwâr chwaraewyd y gêm. Ei enw llawn oedd Thomas Oswald Jones, ac ‘roedd yn fab i Benjamin Cledan Jones, 16 Sgwâr Alban, a’i wraig, Mary. Swyddogaeth ei dad oedd Clerc i Fwrdd y Gwarcheidwaid yn Aberaeron. Golygai hyn fod yna berthynas weithiol glos rhwng ei dad a thad ei wrthwynebwr, Hamilton Evans. Ar ôl ei ddyrchafu yn Lefftenant yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘roedd eisioes wedi ymuno efo Banc Lloyds yng Nghastellnewydd, ac yn y dref ar lannau’r afon Teifi briododd efo Ruby Julie Thomas ym 1920. Fe ddyrchafwyd yn reolwr y banc, ac erbyn ei farwolaeth ar ddiwedd 1975, ‘roedd y ddau’n ymgartrefi yn Napier Gardens, Aberteifi. Bu farw’n 1975 yn 84 mlwydd oed, efo’i wraig yn byw tan oedd hithau’n 96 mlwydd oed. Claddwyd y ddau ym mynwent Yr Hen Gelli ar gyrion Castellnewydd Emlyn. Bu hefyd yn gapten ar glwb pêl-droed Castellnewydd Emlyn cyn i’r rhyfel dorri allan.

Seymour Rees

Yr ail un i dderbyn sylw ydy’r “School custodian” yn y gêm uchod. Dyma safle’r cefnwr mewn rygbi modern. John Seymour Rees oedd ei enw llawn, ac fel sonir mwy nag unwaith yn y darn yma, bu’n chwarae yn erbyn Llambed yn y gêm flaenorol. Ond newidiodd ei liwiau erbyn gêm yr ysgol, ac felly y disgyblion cafodd y fraint o’i bresenoldeb ar y cae, gan sgorio’r unig gais yn yr ail hanner. Cafodd ei eni ar 12fed Fai 1887, yn fab i John Rees, perchennog siop ddilledydd Glasgow House yn rhif 6, Heol y Bont. Ei fam oedd Magdalen Rees (Evans gynt), oedd yn cartrefi efo’i theulu drws nesaf yn rhif 7. ‘Roedd rhedeg siop yn sicr yn dilyn yn y teulu, gan taw tadcu Seymour Rees oedd Evan Rees, siop groser Glanfaen, Ciliau Aeron. Ar ochr ei famgu, mae’n debyg ei fod yn perthyn drwy briodas i’r cenhadwr, Thomas Bevan, aeth o Neuaddlwyd i Fadagascar ym 1818.

Fel y gwelwch efo’r dyddiad geni, fe ‘roedd Seymour Rees yn 19 oed erbyn i’r gêm yma gymeryd lle. Yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Sir Aberaeron, fuodd mor ffodus ag ennill y brif wobr yn yr Eisteddfod Gadeiriol gyntaf chynhaliwyd yn yr ysgol ym mis Ebrill 1908! Enw’r bryddest oedd ‘Cymru’, a’i ffugenw oedd ‘Gomer.’ Mae’n amlwg fyddai wedi cyrraedd ei 20 oed erbyn hyn, ac yntau dal i fod yn ddisgybl ynddi. Ond erbyn cyfrifiad 1911, ‘roedd yn addysgu yn Aberystwyth er mwyn ei dderbyn i’r weinidogaeth. Llwybr tipyn gwahanol i’w dad a’i dadcu.

O fewn deng mlynedd, ‘roedd yn weinidog yr efengyl yng Nghefncoedycymer, ger Merthyr Tudful. Trwy’r tridegau tan weddill ei oes, ‘roedd yn gweinidogaethu ym Mlaendulais, ryw ddeg milltir i’r gogledd o Gastell-nedd. Bu farw yn Ysbyty Groeswen, ger Port Talbot, ym mis Mehefin 1963, ac yna cludiwyd ei gorff i Amlosgfa Treforus.

I orffen y darn yma, mae’n hysbys fod papurau’r Parchedig John Seymour Rees i’w darganfod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ond ‘sgwn i oes yna unryw sôn am gemau cynnar rygbi yn ei dref enedigol yn gynwysiedig ynddynt!

Dweud eich dweud