Prosiect teulu un o drigolion Min y Môr

Stori Sul y Mamau o gartref gofal yn Aberaeron

Teulu yw popeth i un ddynes arbennig iawn sy’n byw yng nghartref preswyl Min y Môr yn Aberaeron.

I nodi Sul y Mamau eleni, mae Edith Lilian Mary Evans (Lilian), 81 oed, wedi bod yn gweithio ar brosiect cynhwysfawr, 129 tudalen o hyd, yn crynhoi hanes ei bywyd.

Cafodd gymorth gan aelodau o staff y cartref, sef Menna Evans, Gweithiwr Cymorth yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Dywedodd Menna Evans: “Mae’r gwaith hwn yn dathlu rhai o atgofion pwysicaf Lilian. Roedd yn bleser gweithio ar hyn a’i helpu i ailymweld ag atgofion gwerthfawr ei bywyd.”

Y cneifio, y capel a’r tartenni gwsbrins

Roedd y gwaith yn gyfle iddi ddwyn i gof rhai o draddodiadau gwledig ei phlentyndod ar fferm Waenhall ger Llidiartywaen, Llanidloes, lle’r oedd yn un o 11 o blant. Mae’n cofio traddodiadau’r cneifio, cyrddau’r capel, y ffermwyr ifanc, y tripiau ysgol Sul a’r antur o hel gwsbrins i wneud jamiau a thartenni o bob math.

Yn ddiweddarach, ar ôl priodi, bu Lilian yn gweithio fel goruchwyliwyr iard yn Ysgol Syr John Rhys Ponterwyd yn yr 1980au, ac yna fel gofalwr yng nghartref gofal Tregerddan yn Bow Street.

Dywedodd Lilian: “Rwyf wedi mwynhau creu Llyfr Atgofion o fy mywyd. Rwyf wedi mwynhau prawf-ddarllen a golygu’r llyfr gyda Menna, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weithio ar gyfrifiadur, chwilio am leoedd o ddiddordeb, ac anfon e-byst i Maureen a Maud [ei merch a’i chwaer]. Mae wedi bod yn her i adnabod ac enwi pobl yn y ffotograffau. Rydym wedi cael llawer o hwyl yn trafod ein hen atgofion.”

‘Trysor pur’ ar Sul y Mamau

Roedd y prosiect yn gofyn cwestiynau fel: ‘beth ydych yn falch ohono yn eich bywyd’; ‘pa gyngor fyddech chi’n rhoi i’ch hun?’; ‘Eich atgof cynharaf’, ac ati, er mwyn sbarduno sgwrs ac ysgogi’r cof.

Dywedodd Maureen Pritchard, merch Lilian: “Mae’r llyfr hwn yn drysor pur ar Sul y Mamau. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r staff ym Min y Môr am eu gofal arbennig o Mam ac am fynd yr ail filltir a chyflawni prosiectau gwerth chweil fel y rhain. Fe ddaeth Mam yma yn 2019 ac mae wedi cael gofal arbennig ers hynny. Rwy’n falch iawn ohoni ac o’r hanesion arbennig rydym wedi dwyn i gof wrth gwblhau’r prosiect hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae hon yn stori hyfryd sy’n amlygu’r gwaith gwych y mae staff ein cartrefi gofal yn ei wneud i wella bywydau’r preswylwyr y maent yn gofalu amdanynt.”

Mae Min y Môr yn un o gartrefi gofal Cyngor Sir Ceredigion, ac yn rhan o’r rhaglen Llesiant Gydol Oes (TAW).