
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron.
Bydd y cynllun £31.59m yn cael ei ariannu drwy gyfraniad o £26.85m gan Raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad o £4.74m gan Gyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon:
“Mae lefelau’r môr sy’n codi a’r stormydd yn fygythiad difrifol i’n tref glan môr yn Aberaeron. Bydd gweithredu’r cynllun hwn yn gwella lefel yr amddiffyniad a roddir i’r nifer o fusnesau a chartrefi yn y dref a bydd yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn ddiolch yn bersonol i swyddogion, ymgynghorwyr ac aelodau am eu diwydrwydd a’u horiau o waith caled dros y pum mlynedd diwethaf i gynhyrchu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir sy’n addas ar gyfer Aberaeron ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau.”
Amddiffyn pobl, eiddo a’r arfordir
Mae swyddogion y Cyngor wedi datblygu’r cynllun dros gyfnod o 5 mlynedd, gan weithio ochr yn ochr â’r ymgynghorydd Engineers Atkins i gynhyrchu cynllun a fydd yn gwneud y canlynol:
- amddiffyn yr arfordir rhag lefelau’r môr yn codi a stormydd
- amddiffyn pobl ac eiddo rhag llifogydd
- sicrhau rhanddeiliaid bod mesurau ar waith i atal llifogydd ac erydu arfordirol
Stormydd diweddar
Mae gan Aberaeron arfordir deinamig gydag etifeddiaeth o lifogydd a difrod gan stormydd, a gyda dyfodiad y newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd a ragwelir yn lefel y môr, mae’r digwyddiadau hyn yn debygol o gynyddu o ran amlder a difrifoldeb.
Mae gwaith i amddiffyn Aberaeron rhag llifogydd arfordirol wedi cynnwys gwaith peirianyddol sylweddol a gwblhawyd yn 2009 ar Draeth y Gogledd, a oedd yn cynnwys wal fôr wedi’i chodi, adfer y traeth o’r newydd a strwythurau rheoli glannau.
Mae’r gwaith hwnnw wedi bod o fudd sylweddol o ran diogelu rhan ogledd-orllewin y dref rhag gorlifo perygl llifogydd o’r môr, ond dim ond rhan o’r broblem o berygl llifogydd y gwnaethant fynd i’r afael ag ef.
Mae Aberaeron yn agored i ystod eang o amodau tonnau o gyfeiriadau’r Gogledd-orllewin a’r De-orllewin, gyda thonnau storm yn mynd i mewn trwy fynedfa’r harbwr gan achosi gorlifo ar hyd waliau’r harbwr ac mewn amodau eithafol yn gorgyffwrdd â’r wal eilaidd fewnol.
Arweiniodd stormydd ym mis Rhagfyr 2013, Ionawr 2014 a Hydref 2017 at gau Pen Cei o achos dŵr y môr yn gorlifo dros yr amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a’r traeth deheuol.
Y gwaith
Ymgynghorwyd â’r cynllun sydd wedi derbyn y cynllunio angenrheidiol, y drwydded forol a’r caniatâd eraill yn ystod hydref 2020. Mae pum elfen allweddol Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron yn cynnwys:
- Adeiladu morglawdd creigiau newydd sy’n ymestyn allan o Bier y Gogledd
- Adnewyddu ac ailadeiladu pen pier Pier y De, gan gynnwys atgyweirio waliau
- Adeiladu argae yn y lleoliadau canlynol:
- Adeiladu wal gerrig a gwydr newydd ar hyd Pen Cei yn ogystal ag atgyweirio wal bresennol y cei
- Codi argae presennol Afon Aeron rhwng cefn Y Seler a’r A487
- Adeiladu wal llifogydd cerrig a gwydr newydd rhwng Pwll Cam a’r Seler
- Adeiladu llifddor yn harbwr mewnol Pwll Cam.
- Gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De, gan gynnwys:
- Disodli’r grwynau pren presennol
- Disodli ac ymestyn y wal gynnal creigiau presennol
- Chynllun adfer y traeth o’r newydd
Y contractwr a benodwyd i ymgymryd â’r gwaith adeiladu yw BAM Nuttall Ltd, a gwblhaodd waith Traeth y Gogledd Aberaeron yn llwyddiannus yn 2009, ac a lwyddodd i gyflawni dau gam cyntaf Cynllun Amddiffyn Arfordirol Borth i Ynyslas yn 2012 a 2015.
Diogelu dyfodol Aberaeron
Dywedodd y Cynghorydd Sir dros Aberaeron ac Aberarth, Elizabeth Evans:
“Rwy’n hynod falch bod y cynllun hwn bellach yn gallu dechrau. Diolch o galon i swyddogion Ceredigion am eu hymrwymiad llwyr i gael y cynllun hwn dros y llinell. Mae trigolion a busnesau Aberaeron wedi bod yn amyneddgar iawn ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Bydd dyfodol Aberaeron nawr yn ddiogel, o ganlyniad i’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion. Allwn i ddim bod yn hapusach.”
Bydd trafodaethau nawr yn cael eu cynnal rhwng cynrychiolwyr y Cyngor, Atkins a BAM i gwblhau’r dyfarniad contract a’r rhaglen adeiladu ar gyfer y gwaith.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gyflwyno’n raddol yn cael ei rhannu â rhanddeiliaid maes o law.