Harbwr Aberaeron yn fôr o liw! 

Mesur sgarff Merched y Wawr

gan Mair Jones

Weloch chi rywbeth tebyg erioed?

Dros fisoedd y gaeaf fe a’th aelodau o Ferched y Wawr, Ceredigion ati i wau a chrosio er mwyn creu sgarff fel rhan o’u project ‘Gwlân, Gwlân’.
Penllanw y cyfan oedd y ffilm a ddangoswyd yn yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Ond, mi oedd rhaid mesur y sgarff, a ble gwell na harbwr Aberaeron yn gynnar yn y bore?

Wel! Faint y’ch chi’n meddwl odd ei hyd hi? Dros chwarter milltir neu 430 metr!
Beth sy’n digwydd iddi nesa? Wel, fe gewch wybod cyn pen dim!