Cribyniaid yn crwydro

Ar drywydd Dewi Emrys

Euros Lewis
gan Euros Lewis

‘A thine’r meddilie sy’n dwad i chi / Wrth bo chi’n ishte uwchben Pwllderi’

Wedi dwy flynedd o sefyll gatre, peth braf dros ben yr wythnos hon oedd cywain ynghyd ar fws G-ac-M a bwrw gered am y dydd yn gwmni llon o henoed Cribyn (a rhai ddim cweit mor hen).

‘Rol croesi’r afon yn Aberteifi cafwyd mynedfa i sir Benfro, a hynny heb unrhyw ffwdan ‘pasport control’ ac ati. Falle ma’ oherwydd ein bod mewn ‘time zone’ gwahanol roedd hi’n un-ar-ddeg arno ni’n cael ein te deg, a hynny yn hen dafarn y Royal Oak, ar sgwar Abergweun. Yn y fan honno hefyd cawsom gyflwyniad i hanes y Ffrancod a laniodd (ym 1797) ar bentir cyfagos Pen-ca’r, nid nepell o le mae goleudy Strwmbwl heddi. Croesi’r sgwar oedd y cam nesa i weld y brodwaith rhyfeddol a grewyd gan ferched yr ardal adeg dauganmlwyddiant y glanio (1997) sy’n dylunio’r holl hanes, gan gynnwys arwriaeth chwedlonol Jemeima Niclas.

Erbyn cerdded hyd y brodwaith roedd hi’n bryd ei bwrw hi am Glwb Golff Priscili, ger Treletert ar gyfer dim byd llai na gwledd o fwyd (ac ambell i ddiferyn bach i helpu’r llwnc). A phawb (heblaw y gyrrwr) yn hanner cysgu, anelwyd trwyn y bws nol tua chyfeiriad arfordir dramatic y sir, ac at fan y mae ei enw’n gyfarwydd i bawb sy’n caru barddoniaeth ein gwlad, sef Pwllderi, ar ochr ddeheuol pentir Pen-ca’r.

Daeth tad Dewi Emrys, awdur y gerdd enwog, yn weinidog i gapel Rhos-y-caerau, Pen-ca’r o Faenygroes, Ceredigion. Crwt ifanc oedd Dewi ar y pryd ac felly daeth tafodiaith gyfoethog yr ardal yn fam-iaith iddo gan ei alluogi i ennill cystadleuaeth neilltuol yn Eisteddod Genedlaethol 1926 ar gyfer cyfansoddi cerdd dafodieithol. Enillodd y Goron hefyd yn y steddfod honno. Yn wir, gyda’r blynyddoedd, enillodd Coron a Chadair y Genedlaethol gymaint o weithiau nes peri i’r awdurdodau orchymyn na chaiff unrhyw un eu hennill fwy na dwywaith, bellach.

Ond er ei holl lwyddiant yn fardd (ac yn bregethwr hynod huawdl hefyd) bywyd cythryblus a gafodd Dewi. Oni bai am garedigrwydd Tom Stephens (prifathro Talgarreg, gynt) a chymwynaswyr eraill Dyffryn Cletwr, mae’n bosib mai marw’n ddi-gartre ar strydoedd Llundain fydde’i dynged.

Diolch i Rhidian, gyrrwr y bws ac un o gyn-ddisgyblion Ysgol Talgarreg, am dynnu’r ffoto uchod ac am ein tywys yn ddiogel o Ben-ca’r nol i Dalgarreg ac at ddrws ffrynt Y Bwthyn, y cartre bach fu’n hafan i Dewi Emrys yn ei henaint nes ei farw a’i gladdu ym mynwent Pisgah. Ar fedd y bardd yn y fan honno y mae cwpled enwog arall o’i waith ei hunan, sef ‘Melys hedd wedi aml siom / Distawrwydd wedi storon’.

Ac wedi cyfannu’r gylchdaith, cam llythrennol oedd hi ar draws yr hewl wedyn i dafarn Glanrafon, at groeso Hefin a Megan a ‘high tea’ y bydde Gorsedd y Beirdd wedi bod yn glodforus iawn ohono.

Diolch i Alan, Sian a Lyn a phawb o bwyllgor Carnifal a Chwaraeon Cribyn am drefnu’r daith ac am ail-sefydlu ‘Trip yr Henoed’ ar galendr diwylliannol pentre Cribyn.