Dau grwt lleol yn curo Lloegr neithiwr!

Llongyfarchiadau – Cymru C- 1 Lloegr C – 0

gan Mair Jones
6F7BBAA0-49EC-4C30-A80B

Emlyn Lewis a Lee Jenkins

Llongyfarchiadau i ddau bêldroediwr lleol, sef Emlyn Lewis, Pennant a Lee Jenkins, Aberaeron ar gynrychioli Cymru C yn ei buddigoliaeth yn erbyn Lloegr C ar Parc Stebonheath, Llanelli o 1 gôl i 0.
Yn chwarae yn ymyl ei gilydd yn yr amddiffyn roedd eu perfformiadau yn arwrol wrth wrthsefyll llu o ymosodiadau gan y Saeson. Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau wisgo’r crys coch ac roedd eu profiad yn amlwg trwy gydol y gêm.
Mae’r ddau yn serennu yn rheolaidd i’w clybiau yn y Cymru Premier, Emlyn i Met Caerdydd, lle mae bellach yn rhan o’r tîm hyfforddi a Lee sy’n chwarae i Hwlffordd yn dilyn cyfnod gyda Tref Aberystwyth.