Pencampwr Byd o Ffos y ffin

Joshua Tarling yn ennill medal Aur ym Mhencampwriaeth Beicio y Byd yn Awstralia.

gan Mair Jones

Bore ’ma cyrhaeddodd y newyddion bod Joshua Tarling 18 oed o Ffos y Ffin, cyn ddisgybl o Ysgol Gynradd ac Ysgol Gyfun Aberaeron wedi ennill medal aur yn y ras yn erbyn y cloc ym mhencampwriaeth beicio iau y byd yn Woolagong, Awstraia.

Wedi ennill y fedal arian y llynedd, aeth Josh un cam yn well eleni gan drechu pencampwr llynedd Hamish McKenzie o Awstralia o 19 eiliad.

Dywedodd Josh y bore ’ma, “Dydy hyn ddim wedi sinco mewn eto. Ma’ fe’n ryddhâd ar ôl cymaint o waith caled!”

Mae Josh wedi arwyddo i dîm enwog Ineos Grenadiers o 2023 – sy’n hyrwyddo talent arbennig o bob rhan o’r byd.

Daw’r llwyddiant yma ar ôl i Josh fod yn ran o dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.

Pob lwc iddo i’r dyfodol a diolch i Dawn ei fam am ddanfon y lluniau o Awstraia y bore ’ma.