Cartref newydd i Theatr Felinfach?

Cyfle i rannu barn mewn ymgynghoriad ar y cynlluniau ar gyfer yr ysgol ardal newydd a dyfodol ein theatr

Carys Mai
gan Carys Mai
Theatr Felinfach

Mae cynlluniau ar gyfer agor ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron eisoes ar y gweill a cafwyd diwrnod agored yn ddiweddar i rannu’r cynlluniau hynny, ond mae trafodaethau hefyd yn cymryd lle am ddyfodol Theatr Felinfach.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynlluniau’r ysgol newydd, sy’n cynnwys y posibilrwydd o ad-leoli’r theatr i safle newydd ar dir yr ysgol.

Mae manylion y cynlluniau ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion ac mae cyfle i rieni, staff ac aelodau’r cyhoedd rannu sylwadau ar y cynlluniau cyn dydd Gwener yma, 21 Hydref.