Cefn y Rhwyd yn y Vale 1

Rhifyn arbennig cynta’r wythnos gydag Eilir Evans, Arwel Jones a Rhodri Jones ar y panel

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)
Logo Cefn y Rhwyd

Fel rhan o ddathliadau ‘Gŵyl Cymru’ Cered a Theatr Felinfach fe fydd yna ddau rifyn arbennig o sioe bêl droed ‘Cefn y Rhwyd’ yn cael eu recordio o Dafarn y Vale, Ystrad Aeron yr wythnos hon.

Dyma’r rhifyn cyntaf a gafodd ei recordio cyn gêm Cymru ac UDA ac yn cadw cwmni i finne a fy nghyd-gyflwynydd Rhodri Francis roedd:

  • Eilir Evans – CPD Felinfach
  • Rhodri Jones – CPD Felinfach
  • Arwel Jones – CPD Tregaron Turfs

Os hoffech ddod i wylio’r ail rifyn yn fyw dewch yn ôl i’r Vale ar gyfer gwylio gêm Cymru yn erbyn Iran am 10 o’r gloch fore Gwener. Fe fydd y sioe yn cychwyn am 12.30 gyda’r panelwyr canlynol:

  • Keith Evans – CPD Felinfach
  • Geraint Davies – CPD Aberaeron
  • John Jones – CPD Sêr Dewi