Noson Nadoligaidd yn Aberaeron

Bwrlwm yr Ŵyl wedi cyrraedd

gan Mair Jones

Roedd Aberaeron yn llawn bwrlwm wrth i’r hen a’r Ifanc ymgynnull tu allan i Neuadd y Dref i groesawu’r Nadolig nos Wener diwethaf. Gyda’r goeden Nadolig yn ei lle ac arogl gwin poeth yn llenwi’r awyr, roedd pawb mewn hwyliau da!

Daeth plant yr Ysgol Gynradd ynghyd i gyd-ganu ffefrynnau’r Nadolig gyda’r gynulleidfa cyn i Siôn Corn gyrraedd mewn cerbyd sbesial iawn! Mewn eiliadau roedd ’na res hir yn aros i gwrdd â’r hen ŵr mwyn. Cafwyd bloedd o gyffro wrth i Darryl Evans, Maer Aberaeron oleuo y goeden hardd!

Mwynhawyd cawl blasus, mins peis hyfryd a gwin poeth a oedd wedi eu paratoi gan fusnesau gwahanol yn y dref! Diolch iddynt am eu haelionnu.

Diolch hefyd i Bwyllgor Gwelliannau Aberaeron am drefnu noson hwyliog i gychwyn dathliadau’r Nadolig.