Mae hwyl yr ŵyl wedi hen gyrraedd Ysgol Gyfun Aberaeron erbyn hyn, wedi i’r ysgol gynnal ei Ffair Nadolig blynyddol nos Iau ddiwethaf, y 24ain o Dachwedd. Dyma’r tro cyntaf i’r ffair cael ei chynnal wedi’r pandemig, a’r cyfle cyntaf i’r ysgol godi arian wedi’r holl gyfyngiadau a fu.
Croesawyd nifer fawr iawn o ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a ffrindiau’r ysgol i’r Neuadd nos Iau, ac roedd hi’n hynod o braf gweld y neuadd yn orlawn â phawb yn barod i gefnogi’r dros 30 o stondinau a oedd yno. Roedd y rhan fwyaf o’r stondinau rheiny’n fusnesau bach lleol a daeth i arddangos eu cynnyrch, boed yn grefft llaw, bwyd a diod neu anrhegion perffaith i’r Nadolig, fel llyfr neu addurniadau gwahanol. Daeth busnesau lleol megis Llaethlliw, Jacôs, Gwisgo Bookworm, Ami’s Bakes a Darlunio Meinir Davies i enwi ond rhai, i werthu eu nwyddau yn y ffair. Profodd y noson yn un hynod o lwyddiannus.
Yn ogystal, roedd adrannau gwahanol yr ysgol wedi bod yn brysur yn paratoi stondinau, megis y Clwb Eco, Adran Dylunio a Thechnoleg, Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Hafan ac Encil. Cafwyd perfformiadau gan Rhys Roberts, Blwyddyn 13 ar y piano a Clare Lloyd, Blwyddyn 7 ar y delyn er mwyn ychwanegu i’r naws Nadoligaidd hyfryd.
Llwydodd y Ffair Nadolig ynghyd â’r Raffl Fawr godi dros £3,500 tuag at adnoddau i ddisgyblion yr ysgol. Hoffwn ddiolch ar ran yr ysgol i bawb am gefnogi’r noson, i’r holl fusnesau a rhoddodd wobr i’r raffl ac i’r holl noddwyr.