Rhestygl – Calendr Adfent Caredigrwydd

24 peth caredig i’w gwneud cyn y Nadolig!

Ffion Evans
gan Ffion Evans
Chwarae

Calendr Adfent Caredigrwydd

Chwarae

Chwarae gyda ffrindiau gwahanol

Chwarae

Chwarae gyda ffrindiau gwahanol

Chwarae

Chwarae gyda ffrindiau gwahanol

Ydych chi erioed wedi clywed am ‘Listicle’? Term Saesneg ydyw sy’n gyfuniad termau ‘list’ ac ‘article’ neu yn y Gymraeg “rhestr” ac “erthygl”. Mewn gwirionedd erthygl ar ffurf rhestr o bethau ydw. Felly, rydym wedi bathu ar derm newydd Cymraeg – Rhestygl!

Dyma ‘Rhestygl’ Plant Ysgol Ciliau Parc

Wrth ddechrau agor eu calendrau Adfent heddiw, mae Plant Ysgol Ciliau Parc yn dechrau meddwl am y Nadolig.

Rydym i gyd yn mwynhau derbyn anrhegion gan deulu, ffrindiau ac wrth gwrs Siôn Corn. Ond mae mwy i’r Nadolig ‘na derbyn anrhegion. Mae’n bwysig hefyd meddwl am y gwahanol bethau gallwn fod yn eu gwneud er mwyn bod yn garedig yn ystod cyfnod yr Adfent.

Felly rydym wedi creu rhestr o 24 peth caredig i’w gwneud. Beth am drio gwneud un peth caredig bob dydd o heddiw nes diwrnod Nadolig fel Calendr Adfent gwahanol.

  1. Tacluso eich ystafell wely heb i’ch rhieni ofyn.
  2. Ewch ag hen deganau, llyfrau neu ddillad dydych chi ddim yn defnyddio rhagor i’r siop elusen.
  3. Gofyn i riant neu aelod o staff yn yr ysgol a oes jobyn allwch chi ei wneud i’w helpu.
  4. Chwarae gyda rhywun gwahanol yn yr ysgol.
  5. Eistedd ar bwys rhywun gwahanol amser cinio neu ar y bws nofio.
  6. Cyfrannu eitemau i’r Banc Bwyd lleol.
  7. Ysgrifennu llythyr at rywun dydych chi ddim wedi ei weld ers amser hir.
  8. Coginio brownies blasus i’ch ffrindiau.
  9. Bod yn garedig i’ch brawd neu chwaer.
  10. Mynd i gasglu sbwriel yn yr ardal.
  11. Tynnu llun neu baentio darlun i rywun a’i roi fel anrheg.
  12. Rhoi cwtch mawr i aelod o’r teulu a dweud ‘Rwy’n dy garu di!’
  13. Gwenu ar bawb.
  14. Dweud rhywbeth neis i rywun er mwyn hela nhw i deimlo’n dda am eu hunain.
  15. Ffoniwch berthynas i ddweud helo.
  16. Creu anrheg i rywun.
  17. Dweud ‘Diolch yn fawr’ arbennig i rywun a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod pam rydych chi’n dweud diolch iddynt.
  18. Dweud jôc er mwyn gwneud i rywun wenu a chwerthin.
  19. Helpu coginio swper.
  20. Tacluso llestri brecwast neu swper heb i rywun ofyn i chi.
  21. Ysgrifennu nodyn i rywun yn nodi 5 peth rydych chi’n hoffi amdanynt.
  22. Darllenwch stori i blentyn bach yn yr ysgol.
  23. Codwch ddarn o sbwriel i fyny.
  24. Peidiwch gwyno trwy’r dydd!