Sion Wyn – sdim dou heb dri!

Ymlaen nawr i Gymru ddydd Sadwrn – Aelod Iau CFfI Cymru amdani!

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
7CB6BFAB-F34A-4B9C-92E5

Sion Wyn : Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Ceredigion 2023/2024

49171A68-7599-44F7-B4A6

Sion Wyn : Bardd Eisteddfod Ysgol Gyfun Aberaeron 2023

Neithiwr, fuodd ‘na ddathlu mawr yn Nyffryn Aeron wrth i Sion Wyn, aelod gweithgar ac ymroddgar o CFfI Felinfach gael ei anrhydeddu fel Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Ceredigion 2023-2024.

Rwy’n siŵr fy mod i’n dweud ar ran holl aelodau, arweinyddion a ffrindie’r clwb ein bod ni’n falch iawn ohono. Fel Swyddog y Wasg i CFfI Felinfach, Cadeirydd Fforwm Ieuenctid CFfI Ceredigion a chyn-lysgennad y mudiad yn Ysgol Gyfun Aberaeron, sdim amheuaeth ei fod yn llawn haeddiannol o’r swydd. Pob dymuniad da iddo yn ystod ei flwyddyn, ac fel cyn Aelod Iau i’r llall – gwna’r fwya’ o’r profiad, llenwa’r tanc â digon o betrol a joia pob eiliad!

A nid dyma’r unig anrhydedd mae Sion wedi derbyn yn ddiweddar, fuodd ‘na ddathlu mawr cyn Hanner Tymor wrth iddo gael ei gadeirio fel bardd Eisteddfod Ysgol Gyfun Aberaeron a hynny am yr eildro! Tipyn o gamp chware teg – llongyfarchiade mawr.

Ond sdim dou heb dri, lwc owt Bangor ddydd Sadwrn wrth i Sion fynd ymlaen i gynrychioli’r sir ar lefel Cymru. Pob lwc iddo gyda’i gyfweliad… Aelod Iau CFfI Cymru amdani!