Aberaeron yn Dathlu!

Bore Llawn Hwyl a Sbri ar Ddydd Gwyl Dewi

gan Mair Jones
2974384E-2303-4A9D-A510

Plant yr Ysgol Gynradd ar ôl yr orymdaith o gwmpas y dref.

65D13F60-733D-4F32-91B4

Ddisgyblion yn dosbarthu baneri arbennig i siopau a busnesau’r dref.

EB949124-E964-413E-A084

Cennin Pedr a adawyd o gwmpas y dref. Anrhegion i bawb!

Wel, am fore prysur heddiw yn Aberaeron!
Am 9.30 roedd y strydoedd dipyn prysurach nag arfer wrth i bawb ddisgwyl gorymdaith ‘enwog’ yr Ysgol Gynradd. Am wledd liwgar. Pawb wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd traddodiadol ac yn cerdded i gerddorddiaeth a oedd yn dod o nifer o’r siopau. Wrth iddynt gerdded dosbarthodd y plant sticeri i’r dorf.

O gwmpas y dref gadawyd tusau o gennin pedr yn anrhegion i godi gwên ac atgoffa pawb ei bod yn ddiwrnod pwysig.

Mae’n draddodiad ers rhai blynyddoedd bod yr Ysgol Gynradd yn cydweithio gyda busnesau’r dref ar ddathlu’r ŵyl. Eleni, dosbarthwyd baneri arbennig o ddeniadol ag arnynt sloganau addas. Beth am fynd o gwmpas y dref i’r gweld? Diolch blant!

Diolch i bawb am y cydweithio hwylus i ddathlu ein nawdd sant.