Llwyddiant yn yr Ŵyl Haf

Merched Cylch Aeron ar y brig!

gan Mair Jones

Cafodd Cangen Cylch Aeron o Fercher y Wawr ddiwrnod llwyddiannus iawn Dydd Sadwrn diwethaf yn yr Ŵyl Haf Genedlaethol ym Machynlleth.
Yn y bore cyhoeddwyd mai Cylch Aeron oedd y gangen a ddaeth yn ail yn Ne Cymru am ddenu y mwyaf o aelodau eleni gan wneud cynnydd o 10!
Bellach, hi yw’r gangen ail fwyaf yng Nghymru gyda 62 o aelodau!
Tipyn o gamp!
Daeth penllanw i ymarfer diwyd yn y prynhawn pan aeth criw ati i gystadlu yng nghystadlaethau’r Cyflwyniad a’r Sgets.

Ar ôl lot o chwerthin a brasgamu, daethant i’r brig yn y Cyflwyniad ar y testun ‘Cynefin’ ac yn drydydd yn y sgets, ‘Cerdded’.
Bydd tynnu coes am yr amrywiol ffyrdd o ‘gofio geiriau’ yn parhau am beth amser rwy’n siwr!