Ieuenctid Aberaeron yn serennu yn Llanymddyfri!

Llwyddiant Ysgubol yn Eisteddfod Sir Gâr.

gan Mair Jones
3BCD89CD-D0F0-40B2-8671

Claire

A57A3BEF-645F-4E57-BDB4

Ela

204634B4-A947-4399-9273

Fflur

F01F2962-1B47-4606-A1F2

Celt ac Ela

95CDDF6C-6AAE-4E72-989B

Ela ac Olivia

7F021FDC-B971-4A5A-8B41

Celt Dafydd

Daeth nifer o ieuenctid Aberaeron i’r brig yng nghystadlaethau llwyfan Eisteddfod Sir Gâr yr wythnos ddiwethaf.
Llongyfarchiadau calonnog iddynt i gyd. Nid yn aml y gwelir yr holl wobrau yn dod i’r un ardal ac Ysgol.
Cafodd Ela Griffiths Jones dwy wobr gyntaf unigol, sef yr Unawd Alaw Werin a’r Unawd Cerdd Dant i flynyddoedd 7, 8 a 9.

Daeth Celt Dafydd adre gyda dwy fedal Aur trwy ennill yr Unawd Bechgyn a hefyd y Ddeuawd Bl. 7, 8 a 9 gydag Ela.

Yn y cystadaethau offerynnol llwyddodd Claire Lloyd hefyd i ddychwelyd gyda dwy wobr gyntaf, sef yn yr Unawd Piano a’r Unawd Telyn i Fl.  7, 8 a 9.

Cafodd Fflur McConnell yr ail wobr yn yr Unawd Merched i’r un oed ac fe ddaeth Ela ac


Olivia Davies yn y trydydd safle yn y Ddeuawd Cerdd Dant.

Diolch i chi gyd am gynrychioli Aberaeron mor arbennig.