Clod i Dafarn y Vale

Tafarn y Vale yn ennill gwobr ‘Gadael Gwaddol’

gan Alwen Thomas
FB_IMG_1687695622035Cyngor Sir Ceredigion

Iwan Thomas yn derbyn y wobr ar ran Tafarn y Vale

Cynhaliwyd noson wobrwyo yn Neuadd y Celfyddydau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar, i longyfarch unigolion, prosiectau a mentrau cymunedol a gwirfoddol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau o fewn Ceredigion.

Roedd y prosiectau i gyd yn derbyn cefnogaeth gan gynllun Cynnal y Cardi. Mae rhaglen LEADER Cynnal y Cardi yn cael ei hariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i Dafarn y Vale am ennill Gwobr ‘Gadael Gwaddol.’

Gallwch ddarllen am weddill enillwyr y sir dwry glicio ar y ddolen:

Cyngor Sir Ceredigion